Wythnos Ymwybyddiaeth Iselder
Mae'r wythnos 15fed i'r 21ain Ebrill 2013 yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iselder.
Beth ydy hyn?
Mae pawb yn teimlo'n drist neu ofidus weithiau.
Mae teimlo'n isel yn ymateb naturiol i brofiadau gofidus neu anodd, a bydd y teimladau hyn fel arfer yn pasio.
Os wyt ti'n cael dy effeithio gan iselder, mae' r teimlad o dristwch yn un ai'n aros, neu mor angerddol fel ei fod yn amharu ar fywyd dydd i ddydd.
Mae iselder yn effeithio un ymhob pump ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae dros 2.9 miliwn o bobl yn y DU gyda diagnosis o iselder ar unrhyw amser penodol.
Mae iselder yn gallu lladd, gyda mwy na 70% o hunan laddiadau wedi'u cofnodi yn cael ei wneud gan bobl gydag iselder, ac yn drist iawn, mae mwy na dau berson ifanc yn lladd eu hunain bob dydd yn y DU ac Iwerddon.
Sut i'w adnabod?
Un ffordd o adnabod iselder ydy drwy chwilio am y canlynol.
Teimladau: digalon, trist, pryderus neu ddiflastod
Egni: blinder, popeth yn ymdrech, symudiadau araf
Cwsg: deffro'n rhy fuan, gorgysgu neu drafferth cysgu
Meddwl: meddwl yn araf, trafferth canolbwyntio, anghofus neu amhendant
Diddordeb: colli diddordeb mewn bwyd, gwaith, rhyw a bywyd i weld yn ddwl
Gwerthoedd: synnwyr llai o hunanwerth, hunan-barch isel neu euogrwydd
Poenau: cur pen, brest neu boenau eraill heb reswm corfforol
Byw: ddim eisiau byw, teimladau hunanladdiad neu feddwl am farwolaeth
Os yw pump neu mwy o'r uchod yn bresennol am dros bythefnos, mae'n bosib dy fod di'n dioddef o iselder.
Beth yw'r achos?
Mae iselder yn aml yn dilyn pethau drwg mewn bywyd, fel marwolaeth, perthynas neu broblemau ariannol, problemau yn y gwaith neu faterion iechyd.
Beth yw'r driniaeth?
Mae posib helpu dros 80% o'r achosion mwyaf difrifol yn sydyn.
Mae seicotherapi effeithiol a meddygaeth gwrth-iselder sydd ddim yn gaethiwus yn galluogi pobl i ddod dros iselder ac atal unrhyw ddychweliad, fel y gallent ddilyn bywydau cynhyrchiol a phleserus.
Pwy gall helpu?
Mae siarad gyda ffrind agos neu berthynas am sut wyt ti'n teimlo yn gam cyntaf pwysig. Gallet ti hefyd siarad gydag athro, nyrs yr ysgol neu gynghorwr. Os nad yw'r person ti'n siarad gyda nhw yn deall, paid gadael i hyn rwystro ti rhag dweud wrth rywun arall.
Fe ddylet ti ymweld â'r meddyg teulu, sydd wedi hen arfer trin pobl gydag iselder. Gallet ti hefyd ffonio llinell gymorth neu ymweld â gwefan, gan fod rhai pobl yn ei chael yn haws i yrru llythyr, e-bost neu neges testun.
Cysylltiadau defnyddiol
ChildLine (0800 11 11)
Samaritans (08457 90 90 90)
Get Connected (0808 808 4994)
Sane (0845 767 8000)
Papyrus UK (Atal Hunanladdiad Ifanc) (08000 68 41 41)
Outside In Counselling: (01978 358900)
MEIC Cymru
Os wyt ti'n meddwl efallai dy fod di'n isel, yna plîs, paid bod ofn gofyn am help.
Erthyglau perthnasol:
DELWEDD: Pink Sherbert Photography trwy Compfight cc