Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

WYTHNOS YMWYBYDDIAETH ISELDER

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 11/04/2013 am 15:23
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Iechyd, Materion Cyfoes

Beth ydy o?

 

Mae pawb yn teimlo’n drist neu’n ddigalon weithiau.

Mae teimlo’n isel yn ymateb naturiol i brofiadau poenus neu anodd ac fel arfer mae’r teimladau hyn yn ein gadael.

Os yw iselder yn effeithio arnoch chi, mae’r teimladau o dristwch yn aros, neu maent mor ddwys fel eu bod yn ymyrryd â bywyd o ddydd i ddydd.

Mae iselder yn effeithio ar un o bob pump ohonom rywbryd yn ein bywydau.

Mae mwy na 2.9 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o iselder ar yr un pryd.

Mae iselder yn lladd gyda mwy na 70% o’r hunanladdiadau a gofnodir yn rhai yn ymwneud â phobl ag iselder.

Yn drist iawn mae mwy na dau unigolyn ifanc y dydd yn lladd eu hunain yn y DU ac Iwerddon.

 

 

Sut i’w adnabod?

 

Teimlo         - iselder ysbryd, trist, pryderus neu ddiflas

Egni             - wedi blino, popeth yn ymdrech, symudiadau arafach

Cysgu           - deffro’n rhy gynnar, cysgu’n hwyr neu drafferth mynd i

                                          gysgu

Meddwl        - araf yn meddwl, canolbwyntio gwael, anghofus neu amhendant

Diddordeb   - colli diddordeb mewn bwyd, gwaith, rhyw a bywyd yn ddiflas

Gwerth        - llai o hunanwerth, hunan-barch isel neu euogrwydd

Poenau         - cur pen aml, poenau brest neu boenau eraill heb reswm corfforol

Byw              - dim awydd byw, meddwl am hunanladdiad neu feddwl am farwolaeth

 

Os bydd mwy na 5 o’r uchod yn bresennol am fwy na 2 wythnos, yna mae’n debyg mai iselder ydy o.

 

 

Beth sy’n ei achosi?

 

Yn aml daw ambell i ergyd mewn bywyd cyn iselder, fel profedigaeth, trafferthion perthynas neu ariannol, problemau yn y gwaith neu salwch meddygol.

 

 

Sut mae ei drin?

 

Gellir cynorthwyo dros 80% o’r iselder mwyaf difrifol yn gyflym.

Mae seicotherapi effeithiol a meddygaeth gwrth-iselder sydd ddim yn mynd yn arferiad yn galluogi pobl i wella o iselder ac yn ei atal rhag iddo ail-afael, fel eu bod yn gallu mwynhau bywydau cynhyrchiol a phleserus. 

 

 

Pwy all gynorthwyo?

 

Mae siarad â chyfaill agos neu berthynas am sut yr ydych yn teimlo yn gam cyntaf pwysig.

Hefyd gallwch siarad ag athro/athrawes, y nyrs ysgol neu gynghorwr.  Os nad yw’r unigolyn yr ydych yn dweud wrtho i’w weld yn deall peidiwch â digalonni – dywedwch wrth rywun arall.

Dylech fynd i weld eich meddyg teulu sydd wedi arfer â thrin pobl ag iselder.

Hefyd gallech ffonio llinell gymorth neu ymweld â gwefan, gan fod rhai pobl yn ei chael hi’n haws anfon llythyr, ebostio neu neges destun.

 

 

Cysylltiadau Defnyddiol

 

www.childline.org.uk                                     0800 11 11

 

www.samaritans.org.uk                                  08457 90 90 90

 

www.getconnected.org.uk                             0808 808 4994

 

www.sane.org.uk                                            0845 767 8000

 

www.papyrus-uk.org                                      HOPELineUK 08000  68 41 41

(atal hunanladdiad ifanc)

 

Outside In Counselling                                   01978 358900

                                                                        2 Arcêd y Gogledd, Stryt Caer, Wrecsam  

(wedi’i leoli yn Info)                                       www.wrecsamifanc.co.uk

 

 

Os ydych yn meddwl eich bod yn isel eich ysbryd, yna

 

PEIDIWCH AG OFNI CAEL CYMORTH!!!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50