WYTHNOS YMWYBYDDIAETH ISELDER
Beth ydy o?
Mae pawb yn teimlo’n drist neu’n ddigalon weithiau.
Mae teimlo’n isel yn ymateb naturiol i brofiadau poenus neu anodd ac fel arfer mae’r teimladau hyn yn ein gadael.
Os yw iselder yn effeithio arnoch chi, mae’r teimladau o dristwch yn aros, neu maent mor ddwys fel eu bod yn ymyrryd â bywyd o ddydd i ddydd.
Mae iselder yn effeithio ar un o bob pump ohonom rywbryd yn ein bywydau.
Mae mwy na 2.9 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o iselder ar yr un pryd.
Mae iselder yn lladd gyda mwy na 70% o’r hunanladdiadau a gofnodir yn rhai yn ymwneud â phobl ag iselder.
Yn drist iawn mae mwy na dau unigolyn ifanc y dydd yn lladd eu hunain yn y DU ac Iwerddon.
Sut i’w adnabod?
Teimlo - iselder ysbryd, trist, pryderus neu ddiflas
Egni - wedi blino, popeth yn ymdrech, symudiadau arafach
Cysgu - deffro’n rhy gynnar, cysgu’n hwyr neu drafferth mynd i
gysgu
Meddwl - araf yn meddwl, canolbwyntio gwael, anghofus neu amhendant
Diddordeb - colli diddordeb mewn bwyd, gwaith, rhyw a bywyd yn ddiflas
Gwerth - llai o hunanwerth, hunan-barch isel neu euogrwydd
Poenau - cur pen aml, poenau
Byw - dim awydd byw, meddwl am hunanladdiad neu feddwl am farwolaeth
Os bydd mwy na 5 o’r uchod yn bresennol am fwy na 2 wythnos, yna mae’n debyg mai iselder ydy o.
Beth sy’n ei achosi?
Yn aml daw ambell i ergyd mewn bywyd cyn iselder, fel profedigaeth, trafferthion perthynas neu ariannol, problemau yn y gwaith neu salwch meddygol.
Sut mae ei drin?
Gellir cynorthwyo dros 80% o’r iselder mwyaf difrifol yn gyflym.
Mae seicotherapi effeithiol a meddygaeth gwrth-iselder sydd ddim yn mynd yn arferiad yn galluogi pobl i wella o iselder ac yn ei atal rhag iddo ail-afael, fel eu bod yn gallu mwynhau bywydau cynhyrchiol a phleserus.
Pwy all gynorthwyo?
Mae siarad â chyfaill agos neu berthynas am sut yr ydych yn teimlo yn gam cyntaf pwysig.
Hefyd gallwch siarad ag athro/athrawes, y nyrs ysgol neu gynghorwr. Os nad yw’r unigolyn yr ydych yn dweud wrtho i’w weld yn deall peidiwch â digalonni – dywedwch wrth rywun arall.
Dylech fynd i weld eich meddyg teulu sydd wedi arfer â thrin pobl ag iselder.
Hefyd gallech ffonio llinell gymorth neu ymweld â gwefan, gan fod rhai pobl yn ei chael hi’n haws anfon llythyr, ebostio neu neges destun.
Cysylltiadau Defnyddiol
www.childline.org.uk 0800 11 11
www.samaritans.org.uk 08457 90 90 90
www.getconnected.org.uk 0808 808 4994
www.sane.org.uk 0845 767 8000
www.papyrus-uk.org HOPELineUK 08000 68 41 41
(atal hunanladdiad ifanc)
Outside In Counselling 01978 358900
2 Arcêd y Gogledd, Stryt Caer, Wrecsam
(wedi’i leoli yn Info) www.wrecsamifanc.co.uk
Os ydych yn meddwl eich bod yn isel eich ysbryd, yna
PEIDIWCH AG OFNI CAEL CYMORTH!!!