Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Wythnos Atal Cancr Ceg y Groth

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 22/01/2013 am 10:14
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Iechyd

Wythnos Atal Cancr Ceg y Groth

� 21ain - 27ain  Ionawr 2012

Beth yw Wythnos Atal Cancr Ceg y Groth?

� Amcan yr wythnos yw helpu codi ymwybyddiaeth o gancr y groch a sut y gellir ei atal dryw amrywiaeth o ddigwyddiadau a mentrau codi ymwybyddiaeth ledled y DU.
� Bob blwyddyn yn y DU bydd dros 2,800 o ferched yn cael diagnosis o gancr y groth a bydd bron i 1,000 o ferched yn marw o’r clefyd.  Ar �l cancr y fron, cancr y groch yw’r cancr ail fwyaf cyffredin mewn merched sy’n 35 ac iau.
� Ni ystyrir fod cancr y groth yn etifeddol.
� Cancr y groth, mewn 99.7% o’r achosion, mae wedi ei achosi gan haint parhaus o firws o’r enw papilomafirws dynol (HPV). Mae HPV yn firws cyffredin iawn sy’n cael ei drosglwyddo drwy gyswllt croen wrth groen yn y rhan cenhedlol o’r corff.  Bydd hyd at 80% o bobl o oed cenhedlu wedi cael eu heintio � HPV rhyw bryd yn eu bywydau.  Fodd bynnag, i’r mwyafrif o ferched ni fydd hyn yn arwain at gancr y groth. Mae cancr y groth yn brin ond mae’r haint HPV yn gyffredin.
� Mae cancr y groth yn ffurfio ym meinwe ceg y groth (yr organ sy’n cysylltu’r groth �’r wain). Fel rheol mae’n gancr sy’n datblygu’n araf iawn, ac efallai na fydd symptomau ond gellir ei rwystro drwy sgrinio rheolaidd (dull sy’n cymryd celloedd o geg y groth i’w harchwilio dan ficrosgop).

Beth yw cancr?

� Nid un afiechyd yw cancr.  Mae dros 200 math o gancr a gall ddigwydd yn unrhyw ran o’r corff.
� Mae ein cyrff yn cynnwys miliynau o gelloedd bach ac i’n cyrff dyfu a gweithio fel arfer, rhaid newid hen gelloedd gan rai newydd.  Fel rheol, bydd y broses hon o newid celloedd yn digwydd mewn ffordd a reolir, ond weithiau mae’n mynd allan o reolaeth a bydd celloedd cancr drwg yn cael eu datblygu sy’n mygu celloedd iach a gallant ledaenu i rannau eraill o’r corff.
� Y ddau brif fath o gancr yw’r cancr caled, lle bydd y celloedd drwg yn ffurfio lwmp neu diwmor a lewcemia a lymffoma pan na fydd tiwmor yn ffurfio.

Beth sy’n achosi cancr?

� Nid wyddom sut mae pob math o gancr yn cael ei achosi, ond mae’r ffactorau mwyaf cyffredin yn cynnwys ysmygu, niwed yr haul, diet neu firws.
� Yn llai cyffredin, gallwn hefyd gael diffygion genetig sy’n cael eu hetifeddu gan ein perthnasau.

Sut mae trin cancr?

� Mae ambell diwmor yn ddiniwed ac yn aml ni fydd angen triniaeth.
� Mae’r mathau cyffredin o driniaeth yn cynnwys cemotherapi (cyffuriau) radiotherapi (ymbelydredd), llawdriniaeth neu drawsblaniad megis trawsblaniad m�r esgyrn. Efallai y bydd claf yn cael un math o driniaeth neu gyfuniad o driniaethau.
� Yn aml bydd triniaethau cancr yn achosi sgil effeithiau annymunol megis teimlo’n s�l, neu flinder mawr, dolur rhydd neu golli gwallt.  Mae hyn oherwydd y bydd y driniaeth yn lladd celloedd cancr hefyd yn niweidio celloedd iach.  Yn aml daw’r sgil effeithiau hyn i ben neu byddant yn lleihau pan ddaw’r driniaeth i ben.

Sut allwn ni leihau’r perygl o gael cancr?

Bydd arferion ffordd o fyw da yn ifanc yn eich helpu i gadw’n iach a brwydro yn erbyn y clefyd felly:

� Rhowch y gorau i ysmygu
� Gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd
� Bwyta ac yfed yn iach
� Bod yn ofalus yn yr haul
� Bod yn ymwybodol o’ch corff - adnabod eich corff a bod yn ymwybodol o unrhyw newid iddo mwyaf buan y canfyddir cancr, mwyaf buan y gellir ei drin ac mae gwell siawns o wella.

Cysylltiadau Defnyddiol

www.jostrust.org.uk   0808 802 8000

www.macmillan.org.uk   0808 808 2020 (9am-9pm Ll-G)

youthline@macmillan.org.uk  0800 808 0800 (9am-9pm Ll-G)

www.nhsdirect.nhs.uk   0845 46 47

www.samaritans.org.uk   08457 90 90 90

www.teencancer.org   0207 387 1000

www.mariecurie.org.uk   0800 716 146

www.childline.org.uk   0800 1111

www.crusebereavementcare.org.uk  0844 477 9400(llinell gymorth o ddydd i ddydd)
     0808 808 1677(llinell gymorth i bobl ifan)

www.clicsargent.org.uk   0800 197 00689 (9am-5pm Ll-G)

www.click4tic.org.uk/Home  TIC (Gwybodaeth am Gancr i unigolion yn eu harddegau)

01978 358900 (lleolir yn Info)

[2 Arced y Gogledd, Stryt Caer, Wrecsam] www.youngwrexham.co.uk
   0808 800 1234 (9am-8pm Ll-G)

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50