Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

The Filter

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 04/02/2013 am 17:20
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Iechyd

Mae The Filter yn wasanaeth dwyieithog, i Gymru’n unig, sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor am dybaco a smygu. Rydyn ni eisiau rhoi’r ffeithiau i chi a hidlo allan y mythau am dybaco. Dydyn ni ddim yma i swnian wrthych chi am beryglon smygu oherwydd mae pawb yn gwybod bod smygu’n lladd – mae hanner smygwyr rheolaidd a chyn-smygwyr yn marw o glefydau sy’n gysylltiedig smygu. Y cwbl a ddywedwn yw, os ydych chi’n mynd i smygu, smygwch gyda gwybodaeth gywir am beth rydych chi’n ei wneud. Ar ein gwefan ceir llwyth o ffeithiau, ymgyrchoedd, storau newyddion a gwybodaeth gyffredinol am unrhyw beth sy’n ymwneud smygu o "beth yw shisha?" i "cost smygu."

Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys:

Llinell rhoi’r gorau iddi gyda chymorth am ddim dros y ffn, trwy neges destun a negeseuon gwib i unrhyw un yng Nghymru sydd o dan 25 oed ac sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu neu ddysgu mwy am effeithiau tybaco

Hyfforddiant i bobl ifanc ac oedolion am smygu, effeithiau tybaco a sut i gynorthwyo pobl eraill i roi’r gorau iddi

Cyfleoedd i wirfoddoli, yn bersonol ac ar lein

Cystadleuaeth Cut Films lle gall pobl ifanc ennill gwobrau am wneud hysbysebion 2 funud i ddweud wrth eu ffrindiau pam mae smygu’n syniad drwg

 

www.thefiltercymru.org

Mae’r gwasanaethau canlynol ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 3yp i 8yp -

Llinell cyngor (am ddim): 08088 022888

Tecst (am ddim): 07860 022888

Neges sydyn: http://thefilterwales.org/cy/stop-smoking/

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50