The Filter
Mae The Filter yn wasanaeth dwyieithog, i Gymru’n unig, sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor am dybaco a smygu. Rydyn ni eisiau rhoi’r ffeithiau i chi a hidlo allan y mythau am dybaco. Dydyn ni ddim yma i swnian wrthych chi am beryglon smygu oherwydd mae pawb yn gwybod bod smygu’n lladd – mae hanner smygwyr rheolaidd a chyn-smygwyr yn marw o glefydau sy’n gysylltiedig smygu. Y cwbl a ddywedwn yw, os ydych chi’n mynd i smygu, smygwch gyda gwybodaeth gywir am beth rydych chi’n ei wneud. Ar ein gwefan ceir llwyth o ffeithiau, ymgyrchoedd, storau newyddion a gwybodaeth gyffredinol am unrhyw beth sy’n ymwneud smygu o "beth yw shisha?" i "cost smygu." Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys: Llinell rhoi’r gorau iddi gyda chymorth am ddim dros y ffn, trwy neges destun a negeseuon gwib i unrhyw un yng Nghymru sydd o dan 25 oed ac sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu neu ddysgu mwy am effeithiau tybaco Hyfforddiant i bobl ifanc ac oedolion am smygu, effeithiau tybaco a sut i gynorthwyo pobl eraill i roi’r gorau iddi Cyfleoedd i wirfoddoli, yn bersonol ac ar lein Cystadleuaeth Cut Films lle gall pobl ifanc ennill gwobrau am wneud hysbysebion 2 funud i ddweud wrth eu ffrindiau pam mae smygu’n syniad drwg
Mae’r gwasanaethau canlynol ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 3yp i 8yp - Llinell cyngor (am ddim): 08088 022888 Tecst (am ddim): 07860 022888 Neges sydyn: http://thefilterwales.org/cy/stop-smoking/