Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

'SYMUD YMLAEN'

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 02/09/2016 am 15:50
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Materion Cyfoes

Fyddi di'n 'SYMUD YMLAEN' i'r ysgol uwchradd eleni?
Oes gen ti gymysgedd o nerfau a chyffro? Dyma rai pethau a all fod yn wahanol i'r ysgol iau
Bydd yr ysgol yn llawer mwy, gall hyn fod yn bryder gan y bydd rhaid i ti ddod o hyd i dy ffordd o gwmpas yr ysgol newydd. Paid â phoeni, bydd yn cymryd amser i ddod o hyd i dy ffordd o’i chwmpas.
Efallai y bydd y dosbarthiadau yn fwy na'r hyn rwyt wedi arfer ag o. Pan fyddi di’n mynd i'r ysgol uwchradd, mae’n debyg y bydd mwy o bobl ifanc mewn dosbarth.  Fel arfer, bydd ysgolion uwchradd yn dy roi mewn dosbarth gyda rhywun rwyt ti’n ei adnabod.
Bydd gen ti wahanol athrawon ar gyfer gwahanol bynciau, ond bydd hyn i gyd ar dy amserlen.
Efallai y bydd yn rhaid i ti ddal bws i'r ysgol uwchradd rŵan, gwna’n siŵr dy fod wedi edrych i mewn i docynnau bws. 
Gwaith cartref!!! Efallai y byddi’n cael mwy nag wyt wedi arfer ei gael, gwna’n siŵr dy fod yn cadw ar ei dop
I dy helpu i baratoi ar gyfer y newid hwn, clicia ar y ddolen isod lle cei hyd i ganllaw defnyddiol, AWGRYMIADAU GWYCH i dy helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer y symud.

http://www.learningdisabilities.org.uk/content/assets/pdf/publications/moving-on-top-tips-for-pupils-17042013-D2144.pdf?view=Standard

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50