'SYMUD YMLAEN'
Fyddi di'n 'SYMUD YMLAEN' i'r ysgol uwchradd eleni?
Oes gen ti gymysgedd o nerfau a chyffro? Dyma rai pethau a all fod yn wahanol i'r ysgol iau
Bydd yr ysgol yn llawer mwy, gall hyn fod yn bryder gan y bydd rhaid i ti ddod o hyd i dy ffordd o gwmpas yr ysgol newydd. Paid â phoeni, bydd yn cymryd amser i ddod o hyd i dy ffordd o’i chwmpas.
Efallai y bydd y dosbarthiadau yn fwy na'r hyn rwyt wedi arfer ag o. Pan fyddi di’n mynd i'r ysgol uwchradd, mae’n debyg y bydd mwy o bobl ifanc mewn dosbarth. Fel arfer, bydd ysgolion uwchradd yn dy roi mewn dosbarth gyda rhywun rwyt ti’n ei adnabod.
Bydd gen ti wahanol athrawon ar gyfer gwahanol bynciau, ond bydd hyn i gyd ar dy amserlen.
Efallai y bydd yn rhaid i ti ddal bws i'r ysgol uwchradd rŵan, gwna’n siŵr dy fod wedi edrych i mewn i docynnau bws.
Gwaith cartref!!! Efallai y byddi’n cael mwy nag wyt wedi arfer ei gael, gwna’n siŵr dy fod yn cadw ar ei dop
I dy helpu i baratoi ar gyfer y newid hwn, clicia ar y ddolen isod lle cei hyd i ganllaw defnyddiol, AWGRYMIADAU GWYCH i dy helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer y symud.