Rhowch ddiwedd ar Homoffobia
Meddyliais y buaswn i’n ysgrifennu am fy mhrofiadau homoffobia a sut mae wedi effeithio arnaf. Gobeithiaf y gallaf ysbrydoli rhywun arall sy’n mynd drwy broblemau, y gallwch barhau i lwyddo yn yr hyn rydych yn ei ddymuno mewn bywyd, ac nid oes unrhyw freuddwyd yn rhy fawr.
Wel! Dechreuodd popeth pan oeddwn i tua 13 a symud i ffwrdd, felly, roedd gen i ysgol uwchradd newydd hanner ffordd drwy flwyddyn 8. Roeddwn i’n wahanol i bawb arall, roeddwn i’n lysieuwraig, ryda gwallt byr sbeiciog, roeddwn i’n gwisgo llawer o golur ac roedd gen i farn am bopeth. Doeddwn i byth yn afiach neb, buaswn yn fwy na bodlon gwrando ar farn eraill (roeddwn i’n lleisio fy marn i hefyd!) Felly, dechreuodd pobl weiddi pethau ataf, pethau gwirion fel ‘tree hugger’ (tydw i ddim yn sicr pam wnaethant feddwl y byddai hyn yn fy nigio?) ond mi anwybyddais. Roeddwn i bob amser wedi bod wrth fy modd P!nk (y gantores), felly dechreuais orchuddio fy llyfrau a’m ffolderi gyda lluniau ohoni pan oeddwn i wedi diflasu. Ar unwaith dechreuodd hyn y stori fy mod yn hoffi pinc a fy mod yn lesbiad. A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn beth oeddwn i, ac rydw i’n parhau felly. Mae’n well gennyf beidio chael label ond syrthio mewn cariad gyda’r person nid y rhyw. Gan i bawb feddwl fy mod yn lesbiad, roedd y pethau gwaethaf yn cael eu dweud amdanaf. Roedd yn rhaid i mi fod yn ofalus yn yr ystafelloedd newid, oherwydd roedd y merched i gyd yn meddwl fy mod yn eu ffansio ac roedd pethau’n cael eu taflu ataf, ac roeddwn i’n cael fy ngwthio i fyny’r grisiau. Dechreuodd gydag ychydig o bobl wirion, felly dywedais wrth fy mhennaeth blwyddyn. Gwnaeth hyn bethau deg gwaith yn waeth a chyn bo hir roedd yr ysgol gyfan yn fy erbyn (hyd yn oed y swyddogion). Roeddwn i wedi cael digon o frwydro trwy’r dydd, bob dydd ac mi flinais yn y diwedd. Roeddwn i ar fin rhoi’r gorau i fy mywyd i gyd gan i mi deimlo fy mod yn byw mewn uffern. Yna un diwrnod roeddwn i ar fws yr ysgol ac ymosodwyd yn rhywiol arnaf gan un o’r disgyblion eraill (tra roedd y lleill yn gwylio ac yn chwerthin), a phenderfynais mai dyna oedd digon. Honno oedd y noson roeddwn i am roi diwedd ar fy mywyd. O feddwl amdano bellach, mae’n rhaid fy mod wedi teimlo’n eithaf drwg i deimlo hynny. Felly, mi es adref a dweud wrth fy rhieni fy mod yn sl ac mi es i’r gwely a mynd ’r blwch o dabledi parasetamol gyda mi. Cymerais sawl un, ond wrth i mi gymryd mwy cerddodd fy mam i mewn a gwneud i mi lyncu d?r halen i orfodi i mi daflu i fyny ac yn y diwedd taflais y cwbl ohonynt i fyny (ymddiheuriadau am fod mor raffig ond reality yw hyn). Dywedodd fy mam nad oedd hi am i fynd yn agos at yr ysgol honno eto a gwnaeth gais am addysg gyswllt (byddai rhaid i mi fynd i ganolfan ieuenctid am 5 diwrnod o’r wythnos a dysgu o’r fan honno). Yn anffodus, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, gwrthodwyd fy nghais ac roeddwn i’n wynebu gorfod dychwelyd i’r ysgol. Ym mis Ebrill 2008 roeddwn i wedi bod o’r ysgol am oddeutu 3 mis. Roeddwn i mor isel yn meddwl y byddai rhaid i mi ddychwelyd yno. Yna ar ddiwedd mis Ebrill bu farw Mam yn sydyn. Hi oedd yr unig un oedd yn paffio fy achos ac yn fy niogelu rhag y peth oedd yn fy ofni fwyaf. Roedd fy nhad yn hawddgar, cyn i mam farw, ond doedd o ddim yn dda am siarad am bethau gyda fi. Felly, yn y diwedd penderfynodd y gwasanaethau cymdeithasol oherwydd marwolaeth mam a minnau ddim yn mynd i’r ysgol i gynnig Addysg Gyswllt am 6 awr yr wythnos yn unig a golygai hyn y byddai rhaid i mi ddysgu fy nghwrs TGAU fy