Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Rhowch ddiwedd ar Homoffobia

Posted by InkNotMink from Wrexham - Published on 25/10/2012 at 15:07
0 comments » - Tagged as People, Topical

Meddyliais y buaswn i’n ysgrifennu am fy mhrofiadau homoffobia a sut mae wedi effeithio arnaf.  Gobeithiaf y gallaf ysbrydoli rhywun arall sy’n mynd drwy broblemau, y gallwch barhau i lwyddo yn yr hyn rydych yn ei ddymuno mewn bywyd, ac nid oes unrhyw freuddwyd yn rhy fawr.

Wel!  Dechreuodd popeth pan oeddwn i tua 13 a symud i ffwrdd, felly, roedd gen i ysgol uwchradd newydd hanner ffordd drwy flwyddyn 8.  Roeddwn i’n wahanol i bawb arall, roeddwn i’n lysieuwraig, ryda gwallt byr sbeiciog, roeddwn i’n gwisgo llawer o golur ac roedd gen i farn am bopeth.  Doeddwn i byth yn afiach neb, buaswn yn fwy na bodlon gwrando ar farn eraill (roeddwn i’n lleisio fy marn i hefyd!) Felly, dechreuodd pobl weiddi pethau ataf, pethau gwirion fel ‘tree hugger’ (tydw i ddim yn sicr pam wnaethant feddwl y byddai hyn yn fy nigio?) ond mi anwybyddais.  Roeddwn i bob amser wedi bod wrth fy modd P!nk (y gantores), felly dechreuais orchuddio fy llyfrau a’m ffolderi gyda lluniau ohoni pan oeddwn i wedi diflasu.  Ar unwaith dechreuodd hyn y stori fy mod yn hoffi pinc a fy mod yn lesbiad.  A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn beth oeddwn i, ac rydw i’n parhau felly.  Mae’n well gennyf beidio chael label ond syrthio mewn cariad gyda’r person nid y rhyw.  Gan i bawb feddwl fy mod yn lesbiad, roedd y pethau gwaethaf yn cael eu dweud amdanaf.  Roedd yn rhaid i mi fod yn ofalus yn yr ystafelloedd newid, oherwydd roedd y merched i gyd yn meddwl fy mod yn eu ffansio ac roedd pethau’n cael eu taflu ataf, ac roeddwn i’n cael fy ngwthio i fyny’r grisiau.  Dechreuodd gydag ychydig o bobl wirion, felly dywedais wrth fy mhennaeth blwyddyn.  Gwnaeth hyn bethau deg gwaith yn waeth a chyn bo hir roedd yr ysgol gyfan yn fy erbyn (hyd yn oed y swyddogion).  Roeddwn i wedi cael digon o frwydro trwy’r dydd, bob dydd ac mi flinais yn y diwedd.  Roeddwn i ar fin rhoi’r gorau i fy mywyd i gyd gan i mi deimlo fy mod yn byw mewn uffern.  Yna un diwrnod roeddwn i ar fws yr ysgol ac ymosodwyd yn rhywiol arnaf gan un o’r disgyblion eraill (tra roedd y lleill yn gwylio ac yn chwerthin), a phenderfynais mai dyna oedd digon.  Honno oedd y noson roeddwn i am roi diwedd ar fy mywyd.  O feddwl amdano bellach, mae’n rhaid fy mod wedi teimlo’n eithaf drwg i deimlo hynny.  Felly, mi es adref a dweud wrth fy rhieni fy mod yn sl ac mi es i’r gwely a mynd ’r blwch o dabledi parasetamol gyda mi.  Cymerais sawl un, ond wrth i mi gymryd mwy cerddodd fy mam i mewn a gwneud i mi lyncu d?r halen i orfodi i mi daflu i fyny ac yn y diwedd taflais y cwbl ohonynt i fyny (ymddiheuriadau am fod mor raffig ond reality yw  hyn).  Dywedodd fy mam nad oedd hi am i fynd yn agos at yr ysgol honno eto a gwnaeth gais am addysg gyswllt (byddai rhaid i mi fynd i ganolfan ieuenctid am 5 diwrnod o’r wythnos a dysgu o’r fan honno).  Yn anffodus, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, gwrthodwyd fy nghais ac roeddwn i’n wynebu gorfod dychwelyd i’r ysgol.  Ym mis Ebrill 2008 roeddwn i wedi bod o’r ysgol am oddeutu 3 mis.  Roeddwn i mor isel yn meddwl y byddai rhaid i mi ddychwelyd yno.  Yna ar ddiwedd mis Ebrill bu farw Mam yn sydyn.  Hi oedd yr unig un oedd yn paffio fy achos ac yn fy niogelu rhag y peth oedd yn fy ofni fwyaf.  Roedd fy nhad yn hawddgar, cyn i mam farw, ond doedd o ddim yn dda am siarad am bethau gyda fi.  Felly, yn y diwedd penderfynodd y gwasanaethau cymdeithasol oherwydd marwolaeth mam a minnau ddim yn mynd i’r ysgol i gynnig Addysg Gyswllt am 6 awr yr wythnos yn unig a golygai hyn y byddai rhaid i mi ddysgu fy nghwrs TGAU fy hunan.  Gweithiais mor galed ac roedd y bywyd gartref yn disgyn yn ddarnau ond roedd fy ngwaith ysgol yn ffynnu.  Roedd unrhyw amser a oedd yn weddill yn cael ei roi tuag at fy mhrosiectau celf.  Llwyddais i ennill fy TGAU gydag A*, A, B ac un C felly roeddwn i’n falch iawn .  Rydw i mor hapus bod y cyfnod hwn o fy mywyd ar ben.  Mae pethau’n parhau’n anodd ac rydw i’n colli fy mam mwy bob dydd, ond mi wn ei bod yn edrych i lawr arnaf yn gwybod yr hyn rydw i wedi ei gyflawni.  Felly, pan fyddwch yn teimlo yn y gwaelod un, codwch a cheisiwch eich gorau - eich bywyd chi ydych chi’n brwydro amdano.

 

 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.