Meddwl Yn Ddiogel Yfed Yn Ddiogel
Mae’n bwysig iawn gwybod y ffeithiau yngln ag alcohol, er mwyn i ti fedru gwneud penderfyniadau gwybodus; sy’n dy helpu di i gadw’n ddiogel a Pam mentro gwneud pethau a fyddai’n gallu amharu’n ddifrifol ar dy ragolygon ar gyfer y dyfodol? Dyma i ti ffeithiau sydyn yngln ’r gyfraith - mae yn erbyn y gyfraith i rywun o dan 18 oed brynu alcohol mewn t tafarn, siop drwyddedig, archfarchnad neu ar-lein - mae yn erbyn y gyfraith i oedolyn brynu alcohol i rywun o dan 18 – fe ellid eu dirwyo cymaint £5,000 - gellid dy ddirwyo yn y fan a’r lle am yfed o dan oed - mae gan yr Heddlu’r grym i gymryd alcohol oddi ar bobl os gwelir nhw yn yfed mewn lle cyhoeddus - os wyt ti’n cael dy dal efo alcohol yn dy feddiant tro ar l tro, gall hynny arwain at euogfarn – a fydd yn gwneud niwed mawr i dy rhagolygon Oeddet ti’n gwybod hefyd... - bod prynu alcohol neu fynd i mewn i le trwyddedig efo cerdyn adnabod ffug neu wedi ei fenthyg yn erbyn y gyfraith – fe ellid dy ddirwyo cymaint £5,000 ac efallai hyd yn oed dy anfon i’r carchar Yn ogystal ’r ffeithiau cyfreithiol yngln ag alcohol, mae’n bwysig iawn gwybod am beryglon yfed o dan oed a sut mae’n gallu troi dy chwarae yn chwerw. Mae alcohol yn gallu amharu’n ddifrifol ar dy synnwyr cyffredin a gwneud i ti wneud pethau na fyddet ti’n eu gwneud fel arfer: - dweud neu wneud pethau y byddi di’n difaru amdanyn nhw - mynd i ffrau neu ffrwgwd - cael rhyw heb ddiogelu - rhoi dy hun ac eraill mewn perygl - rhoi dy hun mewn sefyllfaoedd agored i niwed. Mae pob un o’r pethau hyn yn gallu dod chanlyniadau difrifol, fel: - damwain neu anaf difrifol - mynd yn feichiog yn ddi-eisiau neu heintiau wedi’u trosglwyddo drwy ryw - bod mewn perygl o gael eu treisio neu ymosod rhywiol - mynd i helynt efo’r Heddlu - cael hanes troseddol - cael gwenwyn alcohol - clefydau parhaol fel niwed i’r iau a rhai mathau o gancr. Os bydd gen ti fwy o wybodaeth, byddi di’n gallu gwneud dewisiadau gwell, cadw’n gyfreithiol, yn ddiogel ac yn iach. Sut i gadw’n ddiogel: Siarad yn agored efo dy fam a dy dad, dy warchodwr neu athro am alcohol ac unrhyw bryderon a allai fod gen ti - Dweud bob tro wrth riant neu warchodwr lle’r wyt ti, pwy sy’ efo ti a faint o’r gloch y byddi di’n l - Os byddi di’n dewis yfed, gofala dy fod efo oedolyn cyfrifol - Yfed fel ffwl - ddim yn cwl! Yfa ddwr neu ddiodydd meddal rhwng y diodydd alcoholaidd. Yfwr twp sy’n disgyn yn swp! - Gwna dy ddewisiadau gwybodus dy hun, yn lle bod dan bwysau gan y criw Cofia – tydi dewis peidio ag yfed alcohol o gwbl ddim yn rhyfedd nac annaturiol o gwbl. Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn penderfynu peidio ag yfed o gwbl, hyd yn oed os ydyn nhw dros 18 oed. Dy ddewis di ydi o. . Am fwy o wybodaeth, cymorth neu gyngor cydgyfrinachol yngln ag alcohol ac yfed yn gyfrifol, gallwch gysylltu efo un o’r nifer o sefydliadau lleol hyn sy’n arbenigwyr go iawn yn hyn o beth: Young People’s Drug and Alcohol Service 01978 316750 www.youngwrexham.co.uk The £5,000 question an online quiz and competition relating to buying alcohol: www.5kquestion.co.uk