Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Meddwl Yn Ddiogel Yfed Yn Ddiogel

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 17/12/2012 at 12:27
0 comments » - Tagged as People, Topical, Drugs, Alcohol

  • Picture 1
  • Picture 2

Mae’n bwysig iawn gwybod y ffeithiau yngln ag alcohol, er mwyn i ti fedru gwneud penderfyniadau

gwybodus; sy’n dy helpu di i gadw’n ddiogel a

 

Pam mentro gwneud pethau a fyddai’n gallu amharu’n ddifrifol ar dy ragolygon ar gyfer y dyfodol?

 

Dyma i ti ffeithiau sydyn yngln ’r gyfraith

- mae yn erbyn y gyfraith i rywun o dan 18 oed brynu alcohol mewn t tafarn, siop drwyddedig, archfarchnad neu ar-lein

- mae yn erbyn y gyfraith i oedolyn brynu alcohol i rywun o dan 18 – fe ellid eu dirwyo cymaint £5,000

- gellid dy ddirwyo yn y fan a’r lle am yfed o dan oed

- mae gan yr Heddlu’r grym i gymryd alcohol oddi ar bobl os gwelir nhw yn yfed mewn lle

cyhoeddus

- os wyt ti’n cael dy dal efo alcohol yn dy feddiant tro ar l tro, gall hynny arwain at euogfarn – a fydd yn gwneud niwed mawr i dy rhagolygon

 

Oeddet ti’n gwybod hefyd...

- bod prynu alcohol neu fynd i mewn i le trwyddedig efo cerdyn adnabod ffug neu

wedi ei fenthyg yn erbyn y gyfraith – fe ellid dy ddirwyo cymaint £5,000 ac efallai hyd

yn oed dy anfon i’r carchar

 

Yn ogystal ’r ffeithiau cyfreithiol yngln ag alcohol, mae’n bwysig iawn  gwybod am beryglon yfed o dan oed a sut mae’n gallu troi dy chwarae yn chwerw.

Mae alcohol yn gallu amharu’n ddifrifol ar dy synnwyr cyffredin a gwneud i ti wneud pethau na fyddet ti’n eu gwneud fel arfer:

- dweud neu wneud pethau y byddi di’n difaru amdanyn nhw

- mynd i ffrau neu ffrwgwd

- cael rhyw heb ddiogelu

- rhoi dy hun ac eraill mewn perygl

- rhoi dy hun mewn sefyllfaoedd agored i niwed.

 

Mae pob un o’r pethau hyn yn gallu dod

chanlyniadau difrifol, fel:

- damwain neu anaf difrifol

- mynd yn feichiog yn ddi-eisiau neu heintiau wedi’u trosglwyddo drwy ryw

- bod mewn perygl o gael eu treisio neu ymosod rhywiol

- mynd i helynt efo’r Heddlu

- cael hanes troseddol

- cael gwenwyn alcohol

- clefydau parhaol fel niwed i’r iau a rhai mathau o gancr.

 

Os bydd gen ti fwy o wybodaeth, byddi di’n gallu gwneud dewisiadau gwell, cadw’n gyfreithiol,

yn ddiogel ac yn iach.

 

Sut i gadw’n ddiogel:

 

Siarad yn agored efo dy fam a dy dad, dy warchodwr neu athro am alcohol ac

unrhyw bryderon a allai fod gen ti

- Dweud bob tro wrth riant neu warchodwr lle’r wyt ti, pwy sy’ efo ti a faint o’r gloch

y byddi di’n l

- Os byddi di’n dewis yfed, gofala dy fod efo oedolyn cyfrifol

- Yfed fel ffwl - ddim yn cwl! Yfa ddwr neu ddiodydd meddal rhwng y diodydd alcoholaidd. Yfwr twp sy’n disgyn yn swp!

- Gwna dy ddewisiadau gwybodus dy hun, yn lle bod dan bwysau gan y criw

 

Cofia – tydi dewis peidio ag yfed alcohol o gwbl ddim yn rhyfedd nac annaturiol o gwbl. Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn penderfynu peidio ag yfed o gwbl, hyd yn oed os ydyn nhw dros 18 oed. Dy ddewis di ydi o. .

 

Am fwy o wybodaeth, cymorth neu gyngor cydgyfrinachol yngln ag alcohol ac yfed

yn gyfrifol, gallwch gysylltu efo un o’r nifer o sefydliadau lleol hyn sy’n arbenigwyr go

iawn yn hyn o beth:

 

Young People’s Drug and Alcohol Service

01978 316750

www.youngwrexham.co.uk

 

The £5,000 question

an online quiz and competition relating to buying alcohol: www.5kquestion.co.uk

 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.