Mae Pobl Ifanc yn Wrecsam wedi bod yn brysur yn pobi!
Yn ddiweddcar bud i bobl ifanc yn Wrecsam gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r enw ‘Dewch i Bobi â Mi’ (‘Come Bake with Me’) fel rhan o raglen Clybiau Ieuenctid Gwasanaethau Ieuenctid Wrecsam. Roedd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i bobl ifanc i ddangos eu sgiliau a’u talentau yn y gegin ac yn meithrin eu hyder a’u dealltwriaeth o goginio.
Cafodd pob unigolyn ifanc awr a hanner i baratoi pryd o’u dewis. Roedd y bobl ifanc wedi ymchwilio i’r rysetiau o’u dewis o flaen llaw er mwyn eu paratoi ar y dydd. Ymhlith y prydau roedd crymbl afal, a Jambalaya, tartenni pop Sant Ffolant a chacennau bach banana.
Yn ystod y dydd bu i’r bobl ifanc hefyd ddysgu am bwysigrwydd glanweithdra dwylo a’r hyn sy’n gwneud pryd blasus. Paratowyd cinio gan y bobl ifanc ac roedd hyn yn cynnwys wrap tortilla wedi ei thostio gyda ffrwythau. Roedd sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar fod yn greadigol a gwneud gwledd ffrwythau.
Cafodd y gystadleuaeth ei beirniadu gan Jonathan Miller, Rheolwr Iechyd a Lles a Kerry Jones, Uwch Ymarferydd Lles, gyda Sophie yn fuddugwr serennog yn cael y wobr 1af am ei ‘Jambalaya’ ffantastig. Derbyniodd Sophie fag o nwyddau a oedd yn cynnwys llyfr rysetiau ac offer coginio.
Dywedodd Jonathan ‘Roedd hi’n ffantastig gweld cymaint o bobl ifanc yn mwynhau eu hunain ac yn dysgu am fwyta’n iach mewn ffordd hwyliog. Roedd safon y ceisiadau’n ardderchog ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd rhai o’r bobl ifanc yn mynd ymlaen i fod yn gogyddion da iawn yn y dyfodol.’