Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Mae Pobl Ifanc yn Wrecsam wedi bod yn brysur yn pobi!

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 04/03/2013 at 12:17
0 comments » - Tagged as Food & Drink, Health

Yn ddiweddcar bud i bobl ifanc yn Wrecsam gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r enw ‘Dewch i Bobi â Mi’ (‘Come Bake with Me’) fel rhan o raglen Clybiau  Ieuenctid Gwasanaethau Ieuenctid Wrecsam.  Roedd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i bobl ifanc i ddangos eu sgiliau a’u talentau yn y gegin ac yn meithrin eu hyder a’u dealltwriaeth o goginio.

 

Cafodd pob unigolyn ifanc awr a hanner i baratoi pryd o’u dewis.  Roedd y bobl ifanc wedi ymchwilio i’r rysetiau o’u dewis o flaen llaw er mwyn eu paratoi ar y dydd.  Ymhlith y prydau roedd crymbl afal, a Jambalaya, tartenni pop Sant Ffolant a chacennau bach banana.

 

Yn ystod y dydd bu i’r bobl ifanc hefyd ddysgu am bwysigrwydd glanweithdra dwylo a’r hyn sy’n gwneud pryd blasus.  Paratowyd cinio gan y bobl ifanc ac roedd hyn yn cynnwys wrap tortilla wedi ei thostio gyda ffrwythau.  Roedd sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar fod yn greadigol a gwneud gwledd ffrwythau.

 

Cafodd y gystadleuaeth ei beirniadu gan Jonathan Miller, Rheolwr Iechyd a Lles a Kerry Jones, Uwch Ymarferydd Lles, gyda Sophie yn fuddugwr serennog yn cael y wobr  1af am ei ‘Jambalaya’ ffantastig. Derbyniodd Sophie fag o nwyddau a oedd yn cynnwys llyfr rysetiau ac offer coginio.

 

Dywedodd Jonathan ‘Roedd hi’n ffantastig gweld cymaint o bobl ifanc yn mwynhau eu hunain ac yn dysgu am fwyta’n iach mewn ffordd hwyliog.  Roedd safon y ceisiadau’n ardderchog ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd rhai o’r bobl ifanc yn mynd ymlaen i fod yn gogyddion da iawn yn y dyfodol.’

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.