Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Esbonio’r Prosiect Brandio’r Gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 03/10/2013 am 14:23
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Dawns, Materion Cyfoes

Yr her

Creu brand sy’n mynd i gyfleu gwaith ein gwasanaeth ac sy’n mynd i fod yn ddealladwy i blant, pobl ifanc a gweddill trigolion ein cymunedau.

Y bwriad

Ein hamcan ydi dod o hyd i grŵp o bobl ifanc sy’n medru cyfrannu at y gwaith o greu brand ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae Wrecsam.

Mae angen brand arnom ni i gynrychioli’n gwasanaethau.  Mae angen iddo fod yn gryf ac yn drawiadol fel bod pawb yn gwybod am ein gwaith gwerthfawr.

Y manylion

• Dylai’r brand gyfleu Gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae Wrecsam yn amlwg
• Mae’r gystadleuaeth ar gyfer pobl rhwng 5 a 25 oed
• Mae yna groeso i gyfraniadau llawrydd neu ar gyfrifiadur – ond ar A4 neu lai
• Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am y cyfan – y cynllun, y gosodiad a’r cyd-destun
• Un ymgeisydd, un cynnig
• Mae’n rhaid cofio cynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt.


Y wobr!

Mi fydd yr enillydd yn cael cyfle i gydweithio â dylunydd graffeg arbenigol i greu’r brand ar sail ei syniad buddugol.

Yr amserlen

Ceisiadau i law erbyn y 25ain o Hydref 2013 – dim hwyrach.

Y manylion

infosho@wrexham.gov.uk

INFO Shop, Stryt y Lampint, Wrecsam,LL11 1WH

Facebook: Young Wrexham

Y cyhoeddiad

Mi fydd yr enillydd yn cael clywed am ei lwyddiant, ac am fanylion y wobr, ar y pedwerydd o Dachwedd 2013.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50