Esbonio’r Prosiect Brandio’r Gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae
Yr her
Creu brand sy’n mynd i gyfleu gwaith ein gwasanaeth ac sy’n mynd i fod yn ddealladwy i blant, pobl ifanc a gweddill trigolion ein cymunedau.
Y bwriad
Ein hamcan ydi dod o hyd i grŵp o bobl ifanc sy’n medru cyfrannu at y gwaith o greu brand ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae Wrecsam.
Mae angen brand arnom ni i gynrychioli’n gwasanaethau. Mae angen iddo fod yn gryf ac yn drawiadol fel bod pawb yn gwybod am ein gwaith gwerthfawr.
Y manylion
• Dylai’r brand gyfleu Gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae Wrecsam yn amlwg
• Mae’r gystadleuaeth ar gyfer pobl rhwng 5 a 25 oed
• Mae yna groeso i gyfraniadau llawrydd neu ar gyfrifiadur – ond ar A4 neu lai
• Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am y cyfan – y cynllun, y gosodiad a’r cyd-destun
• Un ymgeisydd, un cynnig
• Mae’n rhaid cofio cynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt.
Y wobr!
Mi fydd yr enillydd yn cael cyfle i gydweithio â dylunydd graffeg arbenigol i greu’r brand ar sail ei syniad buddugol.
Yr amserlen
Ceisiadau i law erbyn y 25ain o Hydref 2013 – dim hwyrach.
Y manylion
INFO Shop, Stryt y Lampint, Wrecsam,LL11 1WH
Facebook: Young Wrexham
Y cyhoeddiad
Mi fydd yr enillydd yn cael clywed am ei lwyddiant, ac am fanylion y wobr, ar y pedwerydd o Dachwedd 2013.