Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Diwrnod AIDS y Byd

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 29/11/2012 am 14:29
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Iechyd

Beth yw Diwrnod AIDS y Byd?

Bwriad y diwrnod yw atal lledaeniad HIV ac AIDS ar draws y byd.  Hwn oedd y diwrnod iechyd rhyngwladol cyntaf erioed, yn 1988.

Mae’r ymgyrch flynyddol yn gyfle i gyrff ym mhedwar ban byd amlygu’r pandemig yma, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a brwydro yn ei erbyn.

Beth yw AIDS?

AIDS yw Acquired Immune Deficiency Syndrome.  Mae’n arwain at analluedd y corff i wrthsefyll nifer o afiechydon a fyddai fel arall yn medru eu goresgyn.  Os yw’r HIV yn cael ei ddarganfod yn hwyr, mae’n medru golygu y bydd triniaeth i rwystro AIDS yn llai effeithiol.

Beth yw HIV?

Firws sy’n ymosod ar system imiwnedd y corff, sef ei amddiffyniad yn erbyn salwch.  Efallai na fydd dioddefwr HIV yn sylwi unrhyw beth am ychydig, ond heb driniaeth mi fydd y system imiwnedd yn gwanhau i’r fath raddau fel na fydd y corff yn medru brwydo yn erbyn clefydau a heintiau.

Ai’r un peth yw HIV ac AIDS?

Na.  Os oes rhywun yn HIV+, mae’r firws HIV yn ei gorff.  Mae ganddo AIDS unwaith mae’r system imiwnedd mor wan fel nad yw’n bosib gwrthsefyll afiechydon a fyddai fel arall yn bosib eu goresgyn.

A yw’n bosib gwella rhag bod yn HIV+?

Na, ond mae triniaeth yn medru ei gadw o dan reolaeth, ac yn medru cynnal y system imiwnedd.  Mae’n bosib byw bywyd llawn ac iach, er bod gan y driniaeth sgil effeithiau.  Os yw’r HIV yn cael ei ddarganfod yn hwyr, mae’n medru golygu y bydd triniaeth i rwystro AIDS yn llai effeithiol.

Sut mae HIV yn cael ei drosglwyddo?

Trwy waed, semen, hylif y wain neu lefrith y fron.  Y dulliau mwyaf cyffredin yw:-

        rhyw heb gondom gyda rhywun HIV+

        derbyn nodwyddau neu offer cyffuriau eraill oddi wrth rywun HIV+

        dynes i’w phlentyn cyn geni, yn ystod yr enedigaeth neu wrth fwydo o’r fron.

A yw’n bosib derbyn HIV drwy ryw geneuol?

Mae yna lawer llai o berygl, ond os oes yna glwyfau, archollion, neu friwiau yn y geg neu o’i gwmpas mae’n rhoi cyfle i’r firws fynd i mewn i’r gwaed.

OND mae’n amhosib i HIV gyrraedd y corff drwy gusanu neu gyffwrdd, poeri, pesychu a thisian, seddi tai bach, pyllau nofio na chyfleusterau glendid sy’n cael eu rhannu.

A ydw i mewn perygl?

Os ydych yn cael rhyw, neu’n rhannu nodwyddau cyffuriau, mae yna berygl.  Mae pawb dan fygythiad i ryw raddau, ond mae rhai’n fwy tebygol na’i gilydd i ddioddef o HIV neu AIDS – dynion hoyw a deurywiol, a phobl ddu Affricanaidd yn enwedig.

Sut medraf i ddiogelu fy hun?

Trwy ddefnyddio condom pob tro yn ystod rhyw trwy’r wain neu ryw trwy’r anws.  Efallai y byddwch hefyd yn dewis defnyddio condom yn ystod rhyw geneuol, er bod llawer llai o berygl.  Cofiwch ddefnyddio condom gyda nod diogelwch CE Ewrop - www.condomessentialwear.co.uk/protection/condom-tips.

Mae clinigau cynllunio teulu ac iechyd rhyw yn darparu condomau am ddim - ewch i

www.fpa.org.uk/finder

i ddod o hyd i un yn agos atoch chi.  Peidiwch byth rhannu nodwyddau na chyfarpar cyffuriau eraill.

Beth os ydw i’n poeni fy mod wedi rhoi fy hun mewn perygl o fod yn HIV+?

Ewch am brawf, rhad ac am ddim a chwbl gyfrinachol, yn eich clinig iechyd rhyw lleol.

Os ydych chi o fewn 72 awr at y digwyddiad, gofynnwch am driniaeth PEP (Post Exposure Prophylaxis) yn y clinig neu yn eich ysbyty lleol.  Gorau po gyntaf, gan fod y driniaeth yn mynd yn llai effeithiol gydag amser.  Mae mwy o fanylion ar www.tht.org.uk/pep.

Ystadegau HIV

        33.4 miliwn o bobl y byd yn byw gydag HIV

        dwy filiwn o farwolaethau yn 2008

        dros 85 000 o bobl y Deyrnas Gyfunol yn byw gydag HIV

        7298 achos newydd o HIV yn y Deyrnas Gyfunol yn 2008

        un o bob tri achos o HIV heb ei ganfod.

Pam ydyn ni’n gwisgo rhubanau coch ar Ddiwrnod AIDS y Byd?

Er mwyn dangos ein cefnogaeth i bobl sy’n byw gydag HIV.  Mae’n ffordd dda i herio’r rhagfarn sy’n bodoli yn erbyn HIV ac AIDS, ac sy’n llyffetheirio’r ymdrechion yn ei erbyn yma ac yn rhyngwladol.

Gwybodaeth a chyngor

Avert

www.avert.org

National AIDS Trust

020 7814 6767

www.nat.org.uk

020 7814 6767

info@nat.org.uk
 

Terrence Higgins Trust

0845 122 1200

www.tht.org.uk

info@tht.org.uk
 

Llinell gymorth iechyd rhyw

0800 567123

www.condomessentialwear.co.uk

Gwasanaeth iechyd rhyw Ysbyty Maelor Wrecsam

(prawf afiechydon rhyw)

01978 727 197

Clinig Cyswllt

01978 358 900

3.00pm – 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener

2 North Arcade, Stryd Caer, Wrecsam

www.youngwrexham.co.uk

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50