Diwrnod AIDS y Byd
Beth yw Diwrnod AIDS y Byd?
Bwriad y diwrnod yw atal lledaeniad HIV ac AIDS ar draws y byd. Hwn oedd y diwrnod iechyd rhyngwladol cyntaf erioed, yn 1988.
Mae’r ymgyrch flynyddol yn gyfle i gyrff ym mhedwar ban byd amlygu’r pandemig yma, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a brwydro yn ei erbyn.
Beth yw AIDS?
AIDS yw Acquired Immune Deficiency Syndrome. Mae’n arwain at analluedd y corff i wrthsefyll nifer o afiechydon a fyddai fel arall yn medru eu goresgyn. Os yw’r HIV yn cael ei ddarganfod yn hwyr, mae’n medru golygu y bydd triniaeth i rwystro AIDS yn llai effeithiol.
Beth yw HIV?
Firws sy’n ymosod ar system imiwnedd y corff, sef ei amddiffyniad yn erbyn salwch. Efallai na fydd dioddefwr HIV yn sylwi unrhyw beth am ychydig, ond heb driniaeth mi fydd y system imiwnedd yn gwanhau i’r fath raddau fel na fydd y corff yn medru brwydo yn erbyn clefydau a heintiau.
Ai’r un peth yw HIV ac AIDS?
Na. Os oes rhywun yn HIV+, mae’r firws HIV yn ei gorff. Mae ganddo AIDS unwaith mae’r system imiwnedd mor wan fel nad yw’n bosib gwrthsefyll afiechydon a fyddai fel arall yn bosib eu goresgyn.
A yw’n bosib gwella rhag bod yn HIV+?
Na, ond mae triniaeth yn medru ei gadw o dan reolaeth, ac yn medru cynnal y system imiwnedd. Mae’n bosib byw bywyd llawn ac iach, er bod gan y driniaeth sgil effeithiau. Os yw’r HIV yn cael ei ddarganfod yn hwyr, mae’n medru golygu y bydd triniaeth i rwystro AIDS yn llai effeithiol.
Sut mae HIV yn cael ei drosglwyddo?
Trwy waed, semen, hylif y wain neu lefrith y fron. Y dulliau mwyaf cyffredin yw:-
rhyw heb gondom gyda rhywun HIV+
derbyn nodwyddau neu offer cyffuriau eraill oddi wrth rywun HIV+
dynes i’w phlentyn cyn geni, yn ystod yr enedigaeth neu wrth fwydo o’r fron.
A yw’n bosib derbyn HIV drwy ryw geneuol?
Mae yna lawer llai o berygl, ond os oes yna glwyfau, archollion, neu friwiau yn y geg neu o’i gwmpas mae’n rhoi cyfle i’r firws fynd i mewn i’r gwaed.
OND mae’n amhosib i HIV gyrraedd y corff drwy gusanu neu gyffwrdd, poeri, pesychu a thisian, seddi tai bach, pyllau nofio na chyfleusterau glendid sy’n cael eu rhannu.
A ydw i mewn perygl?
Os ydych yn cael rhyw, neu’n rhannu nodwyddau cyffuriau, mae yna berygl. Mae pawb dan fygythiad i ryw raddau, ond mae rhai’n fwy tebygol na’i gilydd i ddioddef o HIV neu AIDS – dynion hoyw a deurywiol, a phobl ddu Affricanaidd yn enwedig.
Sut medraf i ddiogelu fy hun?
Trwy ddefnyddio condom pob tro yn ystod rhyw trwy’r wain neu ryw trwy’r anws. Efallai y byddwch hefyd yn dewis defnyddio condom yn ystod rhyw geneuol, er bod llawer llai o berygl. Cofiwch ddefnyddio condom gyda nod diogelwch CE Ewrop - www.condomessentialwear.co.uk/protection/condom-tips.
Mae clinigau cynllunio teulu ac iechyd rhyw yn darparu condomau am ddim - ewch i
i ddod o hyd i un yn agos atoch chi. Peidiwch byth rhannu nodwyddau na chyfarpar cyffuriau eraill.
Beth os ydw i’n poeni fy mod wedi rhoi fy hun mewn perygl o fod yn HIV+?
Ewch am brawf, rhad ac am ddim a chwbl gyfrinachol, yn eich clinig iechyd rhyw lleol.
Os ydych chi o fewn 72 awr at y digwyddiad, gofynnwch am driniaeth PEP (Post Exposure Prophylaxis) yn y clinig neu yn eich ysbyty lleol. Gorau po gyntaf, gan fod y driniaeth yn mynd yn llai effeithiol gydag amser. Mae mwy o fanylion ar www.tht.org.uk/pep.
Ystadegau HIV
33.4 miliwn o bobl y byd yn byw gydag HIV
dwy filiwn o farwolaethau yn 2008
dros 85 000 o bobl y Deyrnas Gyfunol yn byw gydag HIV
7298 achos newydd o HIV yn y Deyrnas Gyfunol yn 2008
un o bob tri achos o HIV heb ei ganfod.
Pam ydyn ni’n gwisgo rhubanau coch ar Ddiwrnod AIDS y Byd?
Er mwyn dangos ein cefnogaeth i bobl sy’n byw gydag HIV. Mae’n ffordd dda i herio’r rhagfarn sy’n bodoli yn erbyn HIV ac AIDS, ac sy’n llyffetheirio’r ymdrechion yn ei erbyn yma ac yn rhyngwladol.
Gwybodaeth a chyngor
Avert
National AIDS Trust
020 7814 6767
020 7814 6767
Terrence Higgins Trust
0845 122 1200
Llinell gymorth iechyd rhyw
0800 567123
Gwasanaeth iechyd rhyw Ysbyty Maelor Wrecsam
(prawf afiechydon rhyw)
01978 727 197
Clinig Cyswllt
01978 358 900
3.00pm – 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener
2 North