Cynllun Gwarchod Beics – Diogelwch eich beic
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol wedi ymuno ‘BikeRegister’ i gychwyn cynllun Gwarchod Beics er mwyn ceisio lleihau lladradau ac adnabod beics sydd wedi cael eu dwyn yng Ngogledd Cymru.
‘BikeRegister’ yw cynllun adnabod a chofrestru beics ar-lein mwyaf y DU.
Mae’r cynllun yn cael ei hwyluso gan Selectamark, cwmni byd-eang sy’n arbenigo mewn cynnyrch diogelwch a gallwch ymuno ’r cynllun yn rhad ac am ddim. Am gost ychwanegol gall pobl ddewis uwchraddio eu lefel o ddiogelwch – Efydd, Arian ac Aur. Mae pob categori yn cynnig lefel gwahanol o ddiogelwch.
Dros y misoedd diwethaf mae’r heddlu wedi gweld cynnydd yn y nifer o achosion o ladradau beics ar draws Gogledd Cymru, yn enwedig beics unigryw a drud.
Meddai PC Hazel Goss MBE o Tm Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae achosion o ladradau beics wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf ac efallai mai un rheswm am hyn ydi poblogrwydd beics drud a ffyrdd arloesol o werthu nwyddau sydd wedi cael eu dwyn ar y we.
“Rydym yn mawr obeithio y bydd nifer fawr o bobl yn cymryd mantais o’r cyfle hwn i gofrestru eu beics. Unwaith y byddant wedi cael eu cofrestru gall y perchnogion fynd i wefan BikeRegister gyda’u cyfrinair a chyfathrebu pherchnogion eraill. Mae yna hefyd gyfleuster i chwilio am feics sydd wedi cael eu dwyn a llawer iawn Mhwyl.
“Os ydych yn uwchraddio eich aelodaeth i wasanaeth efydd cewch gofrestru am ddim a chewch god-bar QR am ddim. Gyda’r lefel arian cewch gofrestru am ddim a chewch becyn marcio stensil fforensig parhaol a bydd aelodau aur yn derbyn yr un math o becyn ’r aelodau arian ond byddant hefyd yn cael system tagio data ar gyfer eu beics, sy’n rhoi cysur ac amddiffyniad gwell yn erbyn achosion o ddwyn.”
Fe ychwanegodd: “Drwy gofrestru ’r cynllun rydych yn lleihau'r siawns y bydd eich beic yn cael ei ddwyn, ac yn cynyddu ‘r siawns y byddwn yn gallu dod o hyd iddo pe bai’n cael ei ddwyn.”
Meddai James Brown, Cyfarwyddwr Gwerthu BikeRegister: “Rydym yn falch iawn o allu cydweithio Heddlu Gogledd Cymru ar y cynllun cyffrous yma.
“Ar draws y DU mae cynlluniau tebyg yn chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch i leihau'r nifer o feics sy'n cael eu dwyn a hynny mewn ardaloedd lle mae troseddwyr proffesiynol wedi bod yn eu dwyn.
Fe ychwanegodd: “Ein nod ni yw helpu’r heddlu i leihau’r nifer o feics sy’n cael eu dwyn a helpu swyddogion i ddychwelyd y beics sy’n cael eu hadfer i’w perchnogion.”
Mae nifer o feics yn cael eu dwyn oherwydd diffyg diogelwch. Diogelwch eich beic drwy ddilyn y canllawiau isod:
- Gwybod manylion eich beic – gwnewch nodyn o enw, model a rhif ffrm y beic rhag ofn y byddwch angen rhoi’r manylion i’r heddlu.
- Tynnwch lun o’ch beic yn ogystal lluniau agos o unrhyw farciau diogelwch neu nodweddion sy’n gwneud iddo sefyll allan
- Marciwch eich beic – dim ond eiliadau y bydd yn ei gymryd i farcio ffrm eich beic ond bydd yn sicr o atal lladron
- Cofrestrwch eich beic – mae hyn yn golygu y bydd modd olrhain eich beic o unrhyw le yn y DU
- Marciwch eich offer beicio megis goleuadau, helmedau, olwynion, seddi a chloeon
- Peidiwch gadael eich beic mewn man anghysbell
- Cofiwch gloi eich beic pan fyddwch yn ei adael, hyd yn oed os ydych yn ei adael am ychydig o funudau yn unig. Clowch eich beic yn sownd wrth stondin beics pwrpasol neu ddodrefn stryd cadarn
- Clowch eich beic wrth y ffrm, nid yr olwynion. Diogelwch neu tynnwch yr olwynion
- Mae hi bob amser yn syniad da i ddefnyddio dau glo, Defnyddiwch ddau wahanol fath o glo, er enghraifft, clo ‘D’ cryf a chlo cadwyn cadarn. Bydd hyn yn golygu y bydd rhaid i leidr ddefnyddio dau declyn gwahanol i dorri’r ddau glo a dwyn y beic, sy’n golygu y bydd yn llai tebygol o wneud
- Tynnwch bethau nad oes modd eu diogelu oddi wrth y beic, yn enwedig goleuadau, pympiau a seddi sy’n dod i ffwrdd yn hawdd
I gofrestru, ewch i’r wefan www.bikeregister.com