Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Cynllun Gwarchod Beics – Diogelwch eich beic

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 02/05/2012 at 13:59
0 comments » - Tagged as Sport & Leisure

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol wedi ymuno ‘BikeRegister’ i gychwyn cynllun Gwarchod Beics er mwyn ceisio lleihau lladradau ac adnabod beics sydd wedi cael eu dwyn yng Ngogledd Cymru.

 

‘BikeRegister’ yw cynllun adnabod a chofrestru beics ar-lein mwyaf y DU.

 

Mae’r cynllun yn cael ei hwyluso gan Selectamark, cwmni byd-eang sy’n arbenigo mewn cynnyrch diogelwch a gallwch ymuno ’r cynllun yn rhad ac am ddim.  Am gost ychwanegol gall pobl ddewis uwchraddio eu lefel o ddiogelwch – Efydd, Arian ac Aur. Mae pob categori yn cynnig lefel gwahanol o ddiogelwch.

 

Dros y misoedd diwethaf mae’r heddlu wedi gweld cynnydd yn y nifer o achosion o ladradau beics ar draws Gogledd Cymru, yn enwedig beics unigryw a drud.

 

Meddai PC Hazel Goss MBE o Tm Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae achosion o ladradau beics wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf ac efallai mai un rheswm am hyn ydi poblogrwydd beics drud a ffyrdd arloesol o werthu nwyddau sydd wedi cael eu dwyn ar y we.

 

“Rydym yn mawr obeithio y bydd nifer fawr o bobl yn cymryd mantais o’r cyfle hwn i gofrestru eu beics. Unwaith y byddant wedi cael eu cofrestru gall y perchnogion fynd i wefan BikeRegister gyda’u cyfrinair a chyfathrebu pherchnogion eraill. Mae yna hefyd gyfleuster i chwilio am feics sydd wedi cael eu dwyn a llawer iawn Mhwyl.

 

“Os ydych yn uwchraddio eich aelodaeth i wasanaeth efydd cewch gofrestru am ddim a chewch god-bar QR am ddim. Gyda’r lefel arian cewch gofrestru am ddim a chewch becyn marcio stensil fforensig parhaol a bydd aelodau aur yn derbyn yr un math o becyn ’r aelodau arian ond byddant hefyd yn cael system tagio data ar gyfer eu beics, sy’n rhoi cysur ac amddiffyniad gwell yn erbyn achosion o ddwyn.”

 

Fe ychwanegodd: “Drwy gofrestru ’r cynllun rydych yn lleihau'r siawns y bydd eich beic yn cael ei ddwyn, ac yn cynyddu ‘r siawns y byddwn yn gallu dod o hyd iddo pe bai’n cael ei ddwyn.”

 

Meddai James Brown, Cyfarwyddwr Gwerthu BikeRegister: “Rydym yn falch iawn o allu cydweithio Heddlu Gogledd Cymru ar y cynllun cyffrous yma.

 

“Ar draws y DU mae cynlluniau tebyg yn chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch i leihau'r nifer o feics sy'n cael eu dwyn a hynny mewn ardaloedd lle mae troseddwyr proffesiynol wedi bod yn eu dwyn.

 

Fe ychwanegodd: “Ein nod ni yw helpu’r heddlu i leihau’r nifer o feics sy’n cael eu dwyn a helpu swyddogion i ddychwelyd y beics sy’n cael eu hadfer i’w perchnogion.”

 

Mae nifer o feics yn cael eu dwyn oherwydd diffyg diogelwch. Diogelwch eich beic drwy ddilyn y canllawiau isod:

 

  • Gwybod manylion eich beic – gwnewch nodyn o enw, model a rhif ffrm y beic rhag ofn y byddwch angen rhoi’r manylion i’r heddlu.
  • Tynnwch lun o’ch beic yn ogystal lluniau agos o unrhyw farciau diogelwch neu nodweddion sy’n gwneud iddo sefyll allan
  • Marciwch eich beic – dim ond eiliadau y bydd yn ei gymryd i farcio ffrm eich beic ond bydd yn sicr o atal lladron
  • Cofrestrwch eich beic – mae hyn yn golygu y bydd modd olrhain eich beic o unrhyw le yn y DU
  • Marciwch eich offer beicio megis goleuadau, helmedau, olwynion, seddi a chloeon
  • Peidiwch gadael eich beic mewn man anghysbell
  • Cofiwch gloi eich beic pan fyddwch yn ei adael, hyd yn oed os ydych yn ei adael am ychydig o funudau yn unig. Clowch eich beic yn sownd wrth stondin beics pwrpasol neu ddodrefn stryd cadarn
  • Clowch eich beic wrth y ffrm, nid yr olwynion. Diogelwch neu tynnwch yr olwynion
  • Mae hi bob amser yn syniad da i ddefnyddio dau glo, Defnyddiwch ddau wahanol fath o glo, er enghraifft, clo ‘D’ cryf a chlo cadwyn cadarn. Bydd hyn yn golygu y bydd rhaid i leidr ddefnyddio dau declyn gwahanol i dorri’r ddau glo a dwyn y beic, sy’n golygu y bydd yn llai tebygol o wneud
  • Tynnwch bethau nad oes modd eu diogelu oddi wrth y beic, yn enwedig goleuadau, pympiau a seddi sy’n dod i ffwrdd yn hawdd

 

I gofrestru, ewch i’r wefan www.bikeregister.com

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.