Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cawl Cennin a Thatws - Gweini 4

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 28/11/2013 am 11:48
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Bwyd a Diod

mser paratoi 5 munud, amser coginio hyd at 30 munud

450g cennin
910g tatws
900ml stoc llysiau wedi ei baratoi
30g menyn
280ml llaeth

Torrwch ddail y cennin, a’u haneru, eu golchi ac yna eu torri’n fân.
Piliwch y tatws, eu golchi a’u sleisio’n denau.
Toddwch y menyn yn y sosban, ychwanegwch y gennych a choginiwch yn araf am tua 5 munud nes iddynt droi’n dryloyw.
Ychwanegwch y tatws a choginiwch yn ysgafn am tua 5 munud.  Ychwanegwch y stoc.
Coginiwch y cawl nes i’r llysiau fod yn frau (10-15 munud) a thynnwch oddi ar y gwres i oeri.
Unwaith y bydd wedi oeri, llyfnwch gyda llyfnwr llaw, ac yna ychwanegwch y llaeth
Cynheswch a’i weini

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50