Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Camdriniaeth Mewn Perthynas

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 13/02/2013 am 12:58
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Iechyd, Materion Cyfoes

Camdriniaeth Mewn Perthynas

Os ydych yn bryderus eich bod chi neu eich ffrindiau mewn perthynas camdriniol, efallai y gall y wybodaeth hon eich helpu.

Fyddech chi’n gweld camdriniaeth?

Fyddech chi’n stopio eich hun?

Bob munud yn y DU mae’r heddlu yn derbyn galwad am help gyda chamdriniaeth mewn perthynas.

Camdriniaeth mewn perthynas yw pan fydd rhywun yn brifo neu’n gofidio rhywun arall maent mewn perthynas â nhw.  Tybia rhai pobl mai mewn perthnasau oedolion y digwydda hyn yn unig, ond gall ddigwydd unrhyw bryd.  Fel rheol, merched sy’n dioddef, a dynion a bechgyn sy’n cam-drin, ond gall ddigwydd i fechgyn hefyd.  Gall hefyd ddigwydd mewn perthnasau o’r un rhyw.  Bu i un astudiaeth ganfod bod

25% o ferched ac 18% o fechgyn wedi cael eu cam-drin yn gorfforol ac i  75% o’r merched a 50% o’r bechgyn ddioddef camdriniaeth emosiynol.

Bu i’r astudiaeth hefyd ganfod bod trais rhywiol yn digwydd i un mewn tair o ferched ac un mewn chwech o fechgyn.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan o’r enw - This is abuse

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50