Camdriniaeth Mewn Perthynas
Camdriniaeth Mewn Perthynas
Os ydych yn bryderus eich bod chi neu eich ffrindiau mewn perthynas camdriniol, efallai y gall y wybodaeth hon eich helpu.
Fyddech chi’n gweld camdriniaeth?
Fyddech chi’n stopio eich hun?
Bob munud yn y DU mae’r heddlu yn derbyn galwad am help gyda chamdriniaeth mewn perthynas.
Camdriniaeth mewn perthynas yw pan fydd rhywun yn brifo neu’n gofidio rhywun arall maent mewn perthynas â nhw. Tybia rhai pobl mai mewn perthnasau oedolion y digwydda hyn yn unig, ond gall ddigwydd unrhyw bryd. Fel rheol, merched sy’n dioddef, a dynion a bechgyn sy’n cam-drin, ond gall ddigwydd i fechgyn hefyd. Gall hefyd ddigwydd mewn perthnasau o’r un rhyw. Bu i un astudiaeth ganfod bod
25% o ferched ac 18% o fechgyn wedi cael eu cam-drin yn gorfforol ac i 75% o’r merched a 50% o’r bechgyn ddioddef camdriniaeth emosiynol.
Bu i’r astudiaeth hefyd ganfod bod trais rhywiol yn digwydd i un mewn tair o ferched ac un mewn chwech o fechgyn.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan o’r enw - This is abuse