Bydd y tîm “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth”
Bydd y tîm “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth” yn ymweld ag ysgolion Wrecsam ar 10fed Mai 2013 i gynnal gweithdai gwrth-hiliaeth gyda disgyblion.
Nod y gweithdai yw codi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc o’r problemau ynglÅ·n â hiliaeth sy’n bodoli mewn cymdeithas.
Mae pêl-droed yn dylanwadu’n fawr ar bobl ifanc ac mae “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth” yn anelu at ddefnyddio’r gamp fel man cychwyn i fynd i’r afael â hiliaeth.
Bydd y tîm ar daith wib undydd o amgylch Wrecsam ac yn ymweld ag Ysgol Clywedog, Ysgol Gynradd San Silyn, Ysgol Gynradd Gymunedol Rhosymedre ac Ysgol Gynradd Hafod y Wern! Drwy gyfrwng y gweithdai caiff y bobl ifanc gyfle i gyfarwyddo ag achosion, canlyniadau a gwahanol fathau o hiliaeth, yn ogystal â chynnig ystod o sgiliau a fydd yn galluogi iddynt herio hiliaeth. Byddant hefyd yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu perthynasau da a pharchu’r gwahaniaethau rhwng pobl beth bynnag fo’u hîl, ethnigrwydd, cenedligrwydd neu grefydd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth” ac i lawrlwytho poster Clwb Pêl-Droed Wrecsam 2012/2013 am ddim ewch i: www.srtrc.org
Os hoffai eich ysgol drefnu gweithdy gwrth-hiliaeth ebostiwch:
jessica@theredcardwales.org