Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Bydd y tîm “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth”

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 07/05/2013 at 14:00
0 comments » - Tagged as People, School Holiday Activities, Sport & Leisure, Topical

  • Cardiff Event
  • Football

Bydd y tîm “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth” yn ymweld ag ysgolion Wrecsam ar 10fed Mai 2013 i gynnal gweithdai gwrth-hiliaeth gyda disgyblion. 
Nod y gweithdai yw codi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc o’r problemau ynglÅ·n â hiliaeth sy’n bodoli mewn cymdeithas.
Mae pêl-droed yn dylanwadu’n fawr ar bobl ifanc ac mae “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth” yn anelu at ddefnyddio’r gamp fel man cychwyn i fynd i’r afael â hiliaeth.

Bydd y tîm ar daith wib undydd o amgylch Wrecsam ac yn ymweld ag Ysgol Clywedog, Ysgol Gynradd San Silyn, Ysgol Gynradd Gymunedol Rhosymedre ac Ysgol Gynradd Hafod y Wern! Drwy gyfrwng y gweithdai caiff y bobl ifanc gyfle i gyfarwyddo ag achosion, canlyniadau a gwahanol fathau o hiliaeth, yn ogystal â chynnig ystod o sgiliau a fydd yn galluogi iddynt herio hiliaeth.  Byddant hefyd yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu perthynasau da a pharchu’r gwahaniaethau rhwng pobl beth bynnag fo’u hîl, ethnigrwydd, cenedligrwydd neu grefydd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth” ac i lawrlwytho poster Clwb Pêl-Droed Wrecsam 2012/2013 am ddim ewch i: www.srtrc.org
Os hoffai eich ysgol drefnu gweithdy gwrth-hiliaeth ebostiwch:
jessica@theredcardwales.org

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.