Blwyddyn Newydd, Person Newydd?
Pan oeddwn yn yr ysgol nid oedd gennyf syniad beth oeddwn eisiau ei wneud, yr oeddwn wedi colli fy mam pan oeddwn yn 14 oed a chollais fy ffordd gyda fy ngwaith ysgol, felly roeddwn yn gwybod na fyddai’r brifysgol yn addas i mi oherwydd ni fyddwn byth wedi gallu cael y graddau.
Roedd fy nghyfnod yn yr ysgol yn un rhyfedd oherwydd ni wnes i fwynhau’r tair blynedd gyntaf. Roeddwn wedi colli rhai o fy ffrindiau a oedd wedi mynd i’r ysgol uwchradd gyda mi o’r ysgol gynradd ac roeddwn yn canolbwyntio ac yn bwrw ati gyda fy ngwaith ysgol. Fe wnes i fwynhau’r bedwaredd a’r bumed flwyddyn, a gwneud ffrindiau da ac roeddwn yn mwynhau mynd i’r ysgol (i’w gweld hwy nid i wneud fy ngwaith ysgol). Roedd bywyd yn anodd adref gyda mam yn sâl gyda chanser yr ysgyfaint, roedd fy nhad yn poeni’n fawr amdani ac yn ceisio cadw ei swydd a rhedeg y siop fferm a oedd gennym ar y pryd, oherwydd roedd mam yn rhy sâl. Pan oeddwn yn fy arddegau, roedd yn haws i mi aros allan gyda fy ffrindiau yn hytrach na mynd adref a delio gyda phopeth oedd yn digwydd yno. Bu farw fy mam yn ystod fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol ac ar y pryd roeddwn yn ormod o lond llaw i fy nhad a chefais fy nhaflu allan o’r tÅ·. Symudais allan o’r ardal gyda’r cariad a oedd gennyf ar y pryd a chollais tua phedwar mis o’r ysgol.
Digwyddodd llawer o bethau annymunol yn ystod y pedwar mis hwnnw ond oherwydd mai erthygl am hyfforddiant a gwaith yw hwn, mi wnaf i sôn am y manylion rhywbryd eto. Yn ffodus, mi wnes i a dad gymodi, symudais yn ôl adref a dychwelais i’r ysgol i gwblhau fy mlwyddyn olaf. Ar ôl colli cymaint o ysgol ni wnes yn dda iawn yn fy arholiadau TGAU. Ar ôl gorffen yn yr ysgol fe es i’r coleg i ail-sefyll rhai o fy arholiadau. Mae gen i ffrind sydd wedi dychwelyd i’r coleg yn awr i ail-sefyll ei arholiadau TGAU, fe wnaethom adael yr ysgol 16 mlynedd yn ôl, felly nid yw byth yn rhy hwyr! Cefais amser gwych yn y coleg, fe wnes i fwy o ffrindiau newydd ac roedd gennyf fywyd cymdeithasol gwych. Roedd fy nhad yn rhoi rhywfaint o bwysau arnaf i ddod i hyd i swydd ond nid oeddwn yn gwybod beth oeddwn eisiau ei wneud. Rhoddais gynnig ar nifer o swyddi gwahanol, cynorthwyydd cyfrifon, gweithiwr gweinyddol a chynrychiolydd gwyliau i enwi dim ond rhai.
Roeddwn yn credu bod angen i mi ddatblygu fy hyfforddiant a phrofiad ymhellach, felly cefais rywfaint o hyfforddiant yn Itec Wrecsam. Yno, llwyddais i gwblhau NVQ 2, City and Guilds ac RSA 1 a 2 ac roedd hyn yn cadw dad yn dawel. Fe agorodd y cymwysterau hyn nifer o ddrysau i mi a gallwn wneud cais am swyddi fel gweithiwr gweinyddol. Yna cefais swydd a oedd yn fy natblygu ymhellach, a rhoddodd fwy o brofiad i mi ar gyfer fy CV; roedd hyn yn golygu y gallwn ddechrau gwneud cais am swyddi eraill. Wedi dweud hynny, nid oedd angen unrhyw gymwysterau arnaf i fod yn gynrychiolydd gwyliau, roedd angen seibiant arnaf ac roedd y cyfnod heb fy ffrindiau a’m teulu wedi fy annog i dyfu i fyny a sefyll ar fy nwy droed fy hun.
Ar ôl i mi ddychwelyd adref o dramor cefais ychydig o swyddi gwahanol ond yna cefais swydd yn gweithio fel gweithiwr cymorth yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu yn eu gwaith ac yn y gymuned. Roeddwn wrth fy modd yn gwneud y swydd honno, roedd y tîm yn wych a chefais gyfle i wneud mwy o hyfforddiant ac ennill mwy o gymwysterau yn y swydd hon. Roeddwn yn barod i wneud unrhyw beth a fyddai’n fy helpu i ddatblygu yn y swydd honno. Nid oeddwn yn poeni beth oedd y swydd, ond pan oeddwn mewn swydd roeddwn yn ceisio gwneud cymaint o hyfforddiant ac ennill cymaint o gymwysterau â phosibl i fy helpu i ddatblygu yn y rôl a datblygu fy CV. Tra’r oeddwn yn y swydd hon fe wnes i ymholiadau i hyfforddi fel gweithiwr ieuenctid. Oherwydd rhai o’r pethau yr oeddwn i wedi’i brofi fel person ifanc, roeddwn yn credu y gallwn helpu pobl ifanc eraill. Cysylltais â Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam a llwyddais i gael lle ar gwrs hyfforddiant o’r enw ‘Cyflwyniad i Waith Ieuenctid’. Roedd yna tua 28 o bobl ar y cwrs y diwrnod hwnnw a buom yn trafod sut fath o berson sy’n addas i fod yn weithiwr ieuenctid a pham fod y gwasanaeth ieuenctid yn gwneud y gwaith mae’n ei wneud. Mae’r cwrs hwn yn parhau i gael ei gynnal heddiw. Ar ôl y cwrs hwn, llwyddais i gael swydd mewn dau glwb ieuenctid yn Wrecsam ac roeddwn yn parhau i wneud fy hyfforddiant gyda Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam. Mae’n saith mlynedd ers i mi wneud y cwrs hwn.
Felly, lle ydw i heddiw?
Rwyf bellach yn gweithio’n llawn amser i’r gwasanaeth ieuenctid ac rwyf newydd gwblhau ail flwyddyn fy nghwrs gradd; rwyf wedi cyrraedd y brifysgol o’r diwedd. Efallai nad wyf wedi dilyn y llwybr arferol i’r brifysgol ac rwyf wedi cael nifer o swyddi ar hyd y ffordd, ond rwyf wedi canfod rhywbeth rwyf yn wirioneddol ei fwynhau. Roeddwn yn credu y byddwn wedi cael digon o ddysgu ar ôl i mi orffen yn y coleg, ond wrth i mi fynd yn hÅ·n, rwy’n mwynhau dysgu a datblygu fy sgiliau.
Mae bywyd yn taflu gwahanol bethau atom sy’n ein tywys i lawr llwybrau gwahanol iawn; mae fy Nain yn credu ei bod yn eironig fy mod yn weithiwr ieuenctid yn awr oherwydd nid oeddwn yn ymddwyn yn angylaidd iawn pan oeddwn i yn fy arddegau. Rwy’n aros am ganlyniadau fy nhraethawd olaf ac ni allaf esbonio pa mor falch yr ydwyf fy mod wedi cyrraedd y pwynt hwn yn fy mywyd.
Mae fy ngwaith yn wych ac rwyf wedi gwneud ffrindiau a chydweithwyr da ac rwy’n mwynhau codi yn y bore i fynd i fy ngwaith; rwyf hefyd wedi cwrdd â llawer iawn o bobl ifanc gwych.
Er ein bod yn byw mewn cyfnod anodd, dylech barhau i weithio’n galed a cheisio am swyddi. Mae yna lawer iawn o bobl ar gael i’ch helpu os nad ydych yn gwybod sut i gael gwaith neu i gael lle ar gwrs hyfforddiant. Os bydd angen cymorth arnoch i lunio CV neu gyngor a chymorth cyffredinol, gallwch alw heibio’r Siop INFO a gweld a all y gweithwyr ieuenctid yno eich helpu chi.
Gallwch gysylltu â ni ar:
Ffôn: 01978 358900
Ebost: infoshop@wrexham.gov.uk
Facebook: Young Wrexham