Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Blwyddyn Newydd, Person Newydd?

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 07/02/2013 at 13:53
0 comments » - Tagged as Education, Topical, Work & Training

Pan oeddwn yn yr ysgol nid oedd gennyf syniad beth oeddwn eisiau ei wneud, yr oeddwn wedi colli fy mam pan oeddwn yn 14 oed a chollais fy ffordd gyda fy ngwaith ysgol, felly roeddwn yn gwybod na fyddai’r brifysgol yn addas i mi oherwydd ni fyddwn byth wedi gallu cael y graddau.

Roedd fy nghyfnod yn yr ysgol yn un rhyfedd oherwydd ni wnes i fwynhau’r tair blynedd gyntaf.  Roeddwn wedi colli rhai o fy ffrindiau a oedd wedi mynd i’r ysgol uwchradd gyda mi o’r ysgol gynradd ac roeddwn yn canolbwyntio ac yn bwrw ati  gyda fy ngwaith ysgol.  Fe wnes i fwynhau’r bedwaredd a’r bumed flwyddyn, a gwneud ffrindiau da ac roeddwn yn mwynhau mynd i’r ysgol (i’w gweld hwy nid i wneud fy ngwaith ysgol).  Roedd bywyd yn anodd adref gyda mam yn sâl gyda chanser yr ysgyfaint, roedd fy nhad yn poeni’n fawr amdani ac yn ceisio cadw ei swydd a rhedeg y siop fferm a oedd gennym ar y pryd, oherwydd roedd mam yn rhy sâl.  Pan oeddwn yn fy arddegau, roedd yn haws i mi aros allan gyda fy ffrindiau yn hytrach na mynd adref a delio gyda phopeth oedd yn digwydd yno.  Bu farw fy mam yn ystod fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol ac ar y pryd roeddwn yn ormod o lond llaw i fy nhad a chefais fy nhaflu allan o’r tÅ·.  Symudais allan o’r ardal gyda’r cariad a oedd gennyf ar y pryd a chollais tua phedwar mis o’r ysgol.

Digwyddodd llawer o bethau annymunol yn ystod y pedwar mis hwnnw ond oherwydd mai erthygl am hyfforddiant a gwaith yw hwn, mi wnaf i sôn am y manylion rhywbryd eto.  Yn ffodus, mi wnes i a dad gymodi, symudais yn ôl adref a dychwelais i’r ysgol i gwblhau fy mlwyddyn olaf.  Ar ôl colli cymaint o ysgol ni wnes yn dda iawn yn fy arholiadau TGAU.  Ar ôl gorffen yn yr ysgol fe es i’r coleg i ail-sefyll rhai o fy arholiadau.  Mae gen i ffrind sydd wedi dychwelyd i’r coleg yn awr i ail-sefyll ei arholiadau TGAU, fe wnaethom adael yr ysgol 16 mlynedd yn ôl, felly nid yw byth yn rhy hwyr!  Cefais amser gwych yn y coleg, fe wnes i fwy o ffrindiau newydd ac roedd gennyf fywyd cymdeithasol gwych.  Roedd fy nhad yn rhoi rhywfaint o bwysau arnaf i ddod i hyd i swydd ond nid oeddwn yn gwybod beth oeddwn eisiau ei wneud.  Rhoddais gynnig ar nifer o swyddi gwahanol, cynorthwyydd cyfrifon, gweithiwr gweinyddol a chynrychiolydd gwyliau i enwi dim ond rhai.

Roeddwn yn credu bod angen i mi ddatblygu fy hyfforddiant a phrofiad ymhellach, felly cefais rywfaint o hyfforddiant yn Itec Wrecsam.  Yno, llwyddais i gwblhau NVQ 2, City and Guilds ac RSA 1 a 2 ac roedd hyn yn cadw dad yn dawel.  Fe agorodd y cymwysterau hyn nifer o ddrysau i mi a gallwn wneud cais am swyddi fel gweithiwr gweinyddol.  Yna cefais swydd a oedd yn fy natblygu ymhellach, a rhoddodd fwy o brofiad i mi ar gyfer fy CV; roedd hyn yn golygu y gallwn ddechrau gwneud cais am swyddi eraill.  Wedi dweud hynny, nid oedd angen unrhyw gymwysterau arnaf i fod yn gynrychiolydd gwyliau, roedd angen seibiant arnaf ac roedd y cyfnod heb fy ffrindiau a’m teulu wedi fy annog i dyfu i fyny a sefyll ar fy nwy droed fy hun.

Ar ôl i mi ddychwelyd adref o dramor cefais ychydig o swyddi gwahanol ond yna cefais swydd yn gweithio fel gweithiwr cymorth yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu yn eu gwaith ac yn y gymuned.  Roeddwn wrth fy modd yn gwneud y swydd honno, roedd y tîm yn wych a chefais gyfle i wneud mwy o hyfforddiant ac ennill mwy o gymwysterau yn y swydd hon.  Roeddwn yn barod i wneud unrhyw beth a fyddai’n fy helpu i ddatblygu yn y swydd honno.  Nid oeddwn yn poeni beth oedd y swydd, ond pan oeddwn mewn swydd roeddwn yn ceisio gwneud cymaint o hyfforddiant ac ennill cymaint o gymwysterau â phosibl i fy helpu i ddatblygu yn y rôl a datblygu fy CV.  Tra’r oeddwn yn y swydd hon fe wnes i ymholiadau i hyfforddi fel gweithiwr ieuenctid.  Oherwydd rhai o’r pethau yr oeddwn i wedi’i brofi fel person ifanc, roeddwn yn credu y gallwn helpu pobl ifanc eraill.  Cysylltais â Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam a llwyddais i gael lle ar gwrs hyfforddiant o’r enw ‘Cyflwyniad i Waith Ieuenctid’.  Roedd yna tua 28 o bobl ar y cwrs y diwrnod hwnnw a buom yn trafod sut fath o berson sy’n addas i fod yn weithiwr ieuenctid a pham fod y gwasanaeth ieuenctid yn gwneud y gwaith mae’n ei wneud.  Mae’r cwrs hwn yn parhau i gael ei gynnal heddiw.  Ar ôl y cwrs hwn, llwyddais i gael swydd mewn dau glwb ieuenctid yn Wrecsam ac roeddwn yn parhau i wneud fy hyfforddiant gyda Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam.  Mae’n saith mlynedd ers i mi wneud y cwrs hwn.

Felly, lle ydw i heddiw?

Rwyf bellach yn gweithio’n llawn amser i’r gwasanaeth ieuenctid ac rwyf newydd gwblhau ail flwyddyn fy nghwrs gradd;  rwyf wedi cyrraedd y brifysgol o’r diwedd.  Efallai nad wyf wedi dilyn y llwybr arferol i’r brifysgol ac rwyf wedi cael nifer o swyddi ar hyd y ffordd, ond rwyf wedi canfod rhywbeth rwyf yn wirioneddol ei fwynhau.  Roeddwn yn credu y byddwn wedi cael digon o ddysgu ar ôl i mi orffen yn y coleg, ond wrth i mi fynd yn hÅ·n, rwy’n mwynhau dysgu a datblygu fy sgiliau.

Mae bywyd yn taflu gwahanol bethau atom sy’n ein tywys i lawr llwybrau gwahanol iawn;  mae fy Nain yn credu ei bod yn eironig fy mod yn weithiwr ieuenctid yn awr oherwydd nid oeddwn yn ymddwyn yn angylaidd iawn pan oeddwn i yn fy arddegau.  Rwy’n aros am ganlyniadau fy nhraethawd olaf ac ni allaf esbonio pa mor falch yr ydwyf fy mod wedi cyrraedd y pwynt hwn yn fy mywyd.

Mae fy ngwaith yn wych ac rwyf wedi gwneud ffrindiau a chydweithwyr da ac rwy’n mwynhau codi yn y bore i fynd i fy ngwaith; rwyf hefyd wedi cwrdd â llawer iawn o bobl ifanc gwych.

Er ein bod yn byw mewn cyfnod anodd, dylech barhau i weithio’n galed a cheisio am swyddi.  Mae yna lawer iawn o bobl ar gael i’ch helpu os nad ydych yn gwybod sut i gael gwaith neu i gael lle ar gwrs hyfforddiant.  Os bydd angen cymorth arnoch i lunio CV neu gyngor a chymorth cyffredinol, gallwch alw heibio’r Siop INFO a gweld a all y gweithwyr ieuenctid yno eich helpu chi.

Gallwch gysylltu â ni ar:

Ffôn: 01978 358900

Ebost: infoshop@wrexham.gov.uk

Facebook: Young Wrexham

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.