Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

'Beth sy'n Bwysig i Chi?

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 27/01/2015 at 17:22
0 comments » - Tagged as Food & Drink, People

Yn dilyn yr ymateb aruthrol a gawsom i'n ymgynghoriad ddiweddar ar y gyllideb, ‘Penderfyniadau Anodd’, rydym ni eisiau parhau i sgwrsio â’r cyhoedd er mwyn deall beth sy'n bwysig i chi, a sicrhau bod y gwasanaethau rydym ni’n eu cynnig yn diwallu eich anghenion yn y ffordd orau.

Mae’r Cyngor yn gweithio i sicrhau fod pobl leol yn derbyn gwasanaethau o safon uchel sy’n darparu gwerth am arian o fewn cyllideb sy’n lleihau.  Yn ystod yr ymgynghoriad hwn, rydym yn eich gwahodd i ddweud wrthym beth sy’n bwysig i chi.
Bydd y canlyniadau yn cael eu hadrodd i Gynghorwyr mewn gweithdy ym mis Mawrth pan fyddan nhw’n ystyried targedau gwahanol feysydd gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn.  Bydd adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i'r holl Gynghorwyr a Phenaethiaid Adrannau, fel y gallan nhw ddefnyddio’ch barn i ddatblygu gwaith eu gwasanaethau ac i lywio penderfyniadau ynghylch ble i ganolbwyntio adnoddau.
Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/dwedwch , neu drwy lenwi’r arolwg papur sydd ar gael yn Llyfrgell Wrecsam, y Ganolfan Gyswllt (Stryt yr Arglwydd) ac yn nerbynfa Neuadd y Dref.  Fel arall, gallwch anfon eich sylwadau atom mewn e-bost i telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk, neu mewn llythyr at Dweud Eich Dweud, 3ydd Llawr, Anecs Neuadd y Dref, Neuadd y Dref, Wrecsam.  LL11 1AY.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad yw 20 Chwefror 2015

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.