20,000 o bobl mewn un lle?
20,000 o bobl mewn un lle? Tydw i erioed wedi gweld gymaint o bobl rwyf yn ei adnabod yn yr un lle ar yr un amser. Roedd hi’n ymddangos bod pawb o Wrecsam a’r ardal gyfagos wedi dod i wrando ar y Stereophonics. Ac os nad oedd hynny yn ddigon o esgus i ddathlu –a oes angen i mi atgoffa pawb am gêm bêl-droed Cymru ar y nos Wener?!
Roedd atmosffer da yn Wrecsam ar y nos Sadwrn, gyda phobl ifanc a phobl hŷn yn mynd i'r cae rasio. Roedd y cyfnewid strap garddwn yn gyflym ac effeithlon, a doedd dim angen aros i fynd i mewn i’r safle. Fodd bynnag, unwaith roedd y dorf yn tyfu roedd y ciwiau i’r toiledau, bwyd a diod yn tyfu hefyd.
Ond anghofiwyd am hyn yn ddigon sydyn pan ddechreuodd y band chwarae, gan gynhesu’r dorf yn barod ar gyfer y prif berfformiad. (Torf oedd dal i ddathlu ar ôl y noswaith flaenorol)
Daeth y Stereophonics ar y llwyfan, roedd y dorf yn canu gyda hwy, roedd symudiadau dawnsio diddorol i'w weld; roedd pobl ar ben ysgwyddau ac roedd mwyfwy o bobl yn gwisgo amrywiaeth o siacedi oedd yn dal dŵr. Chwaraewyd hen ganeuon a rhai newydd, gan fand sydd yn dal i fynd ar ôl bron i ugain o flynyddoedd. Yn sicr nid oedd hi’n edrych fel hynny, gyda phobl ifanc a phobl hŷn yn mwynhau’r noson gofiadwy, a’r penwythnos cofiadwy.