Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

20,000 o bobl mewn un lle?

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 01/09/2016 at 11:58
0 comments » - Tagged as Culture, Festivals, Music, Stage

20,000 o bobl mewn un lle? Tydw i erioed wedi gweld gymaint o bobl rwyf yn ei adnabod yn yr un lle ar yr un amser. Roedd hi’n ymddangos bod pawb o Wrecsam a’r ardal gyfagos wedi dod i wrando ar y Stereophonics.  Ac os nad oedd hynny yn ddigon o esgus i ddathlu –a oes angen i mi atgoffa pawb am gêm bêl-droed Cymru ar y nos Wener?!
 Roedd atmosffer da yn Wrecsam ar y nos Sadwrn, gyda phobl ifanc a phobl hŷn yn mynd i'r cae rasio. Roedd y cyfnewid strap garddwn yn gyflym ac effeithlon, a doedd dim angen aros i fynd i mewn i’r safle. Fodd bynnag, unwaith roedd y dorf yn tyfu roedd y ciwiau i’r toiledau, bwyd a diod yn tyfu hefyd.
 Ond anghofiwyd am hyn yn ddigon sydyn pan ddechreuodd y band chwarae, gan gynhesu’r dorf yn barod ar gyfer y prif berfformiad. (Torf oedd dal i ddathlu ar ôl y noswaith flaenorol)
Daeth y Stereophonics  ar y llwyfan, roedd y dorf yn canu gyda hwy, roedd symudiadau dawnsio diddorol i'w weld; roedd pobl ar ben ysgwyddau ac roedd mwyfwy o bobl yn gwisgo amrywiaeth o siacedi oedd yn dal dŵr.  Chwaraewyd hen ganeuon a rhai newydd, gan fand sydd yn dal i fynd ar ôl bron i ugain o flynyddoedd. Yn sicr nid oedd hi’n edrych fel hynny, gyda phobl ifanc a phobl hŷn yn mwynhau’r noson gofiadwy, a’r penwythnos cofiadwy.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.