Wythnos Anabledd Dysgu
Wythnos
18 ain – 24 ain June
Nid yw plant anabl yn cael yr un cyfleoedd phlant eraill. Rhaid iddynt ymladd am eu hawliau a rhaid i’w rhieni frwydro i gael gwasanaethau.
Beth yw anabledd dysgu?
Caiff anabledd dysgu ei achosi trwy sut mae’r ymennydd yn datblygu.
Mae llawer gwahanol fathau ac mae’r rhan fwyaf yn datblygu cyn geni baban, yn ystod genedigaeth neu oherwydd salwch difrifol yn gynnar mewn plentyndod. Mae anabledd dysgu’n para drwy gydol oes ac, fel arfer, mae’n effeithio’n sylweddol ar fywyd rhywun.
Nid afiechyd y meddwl neu dyslecsia yw anabledd dysgu.
Mae pobl gydag anabledd dysgu’n ei chael yn anoddach nag eraill i ddysgu, deall a chyfathrebu. Mae pobl gydag anableddau dysgu dwys a lluosog (PMLD) angen cymorth llawn-amser gyda phob agwedd ar eu bywydau – gan gynnwys bwyta, yfed, ymolchi, gwisgo a defnyddio’r toiled.
Ffeithiau ynghylch anabledd dysgu
Caiff y rhan fwyaf o bobl gydag anabledd dysgu eu trin fel ‘gwahanol’.
Nid oes ganddynt yr un rheolaeth dros eu bywydau eu hunain gweddill ein cymdeithas ac maent yn wynebu heriau a rhagfarn bob dydd.
Llai nag 1 ymhob 5 o bobl gydag anabledd dysgu sy’n gweithio (o’i gymharu ag 1 ymhob 2 o bobl anabl yn gyffredinol), ond gwyddom fod o leiaf 65% o bobl gydag anabledd dysgu eisiau gweithio. O’r bobl hynny gydag anabledd dysgu sydd yn gweithio, dim ond rhan-amser fydd y mwyafrif ohonynt yn gweithio a hynny am gyflog isel.
Dim ond 1 ymhob 3 o bobl gydag anabledd dysgu sy’n cymryd rhan mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant.
Yn aml mae plant gydag anabledd dysgu’n cael eu cau allan yn gymdeithasol ac mae 8 allan o 10 o blant gydag anabledd dysgu’n cael eu bwlio.
Mae 1 mewn 2 o deuluoedd gyda phlentyn anabl yn byw mewn tlodi.
Mae o leiaf hanner holl oedolion gydag anabledd dysgu’n byw yn y cartref teuluol – sy’n golygu bod llawer heb gael yr un cyfleoedd phobl eraill i gael annibyniaeth, dysgu sgiliau allweddol a gwneud dewisiadau ynghylch eu bywydau eu hunain.
Mae 58,000 o bobl gydag anabledd dysgu’n cael cefnogaeth gwasanaethau gofal dydd.
Mae pobl gydag anabledd dysgu 58 gwaith yn fwy tebygol o farw dan 50 oed na phobl eraill. Ac mae pedair gwaith gymaint o bobl gydag anabledd dysgu’n marw o achosion y mae modd eu rhwystro nag yn y boblogaeth yn gyffredinol.
Ni chafodd 75% o feddygon teulu unrhyw hyfforddiant i helpu iddynt drin pobl gydag anabledd dysgu.
Llai na thraean y bobl gydag anabledd dysgu sydd rhywfaint o ddewis gyda phwy maent yn byw, a llai na hanner sydd rhywfaint o ddewis o ble maent yn byw.
Mae 7 allan o 10 teulu sy’n gofalu am rywun gydag anableddau dysgu dwys a lluosog wedi cyrraedd neu ddod yn agos at ‘ben eu tennyn’ oherwydd diffyg gwasanaethau seibiant byr.
Mae 29,000 o oedolion gydag anabledd dysgu’n byw gyda rhieni oedrannus 70 oed neu h?n, llawer ohonynt yn rhy hen neu eiddil i barhau eu swyddogaeth ofalu. Mewn dim ond 1 ymhob 4 o’r achosion hyn mae’r awdurdodau lleol wedi trefnu llety arall.
I gael cefnogaeth
Sefydliad i bobl gydag anableddau dysgu http://www.learningdisabilities.org.uk/
Ynghylch Anableddau Dysgu http://www.aboutlearningdisabilities.co.uk/about-self-directed-support.html