Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

WRECSAM IFANC YN CEFNOGI CYMRU YN FFRAINC! #GorauChwaraeCydChwarae

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 24/05/2016 am 13:03
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes, Teithio

WRECSAM IFANC YN CEFNOGI CYMRU YN FFRAINC!  #GorauChwaraeCydChwarae

Rwy’n ysgrifennu’r canlynol fel cefnogwr Pêl-droed Cymru sydd wedi dilyn hynt a helynt y tîm pêl-droed rhyngwladol ers oeddwn yn 11 oed. (Yr wyf bellach yn 44 oed!) Yn yr amser hwn mae llawer mwy o isafbwyntiau nac uchafbwyntiau ond ni ddylid hel meddyliau am y gorffennol ac edrych ymlaen i’r dyfodol ...... ac am ddyfodol sydd gennym ni!
Ddim ers 1958 y mae tîm Cymru wedi llwyddo i gyrraedd pencampwriaeth pêl-droed rhyngwladol mawr, ond mae'r tîm yn cynnwys Bale, Ledley, Williams, Allen a Ramsey wedi ei gwneud hi drwodd i rownd derfynol Ewro 2016 ac yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Slofacia yn Bordeaux ar 11 Mehefin. 
Pum niwrnod yn ddiweddarach ar 16 Mehefin, bydd Cymru yn chwarae Lloegr o fewn eu grŵp yn  Lens a'r gêm grŵp olaf yn gweld Cymru yn chwarae Rwsia yn Toulouse ar 20 Mehefin. 

Bydd miloedd o gefnogwyr Cymru yn mynd i Ffrainc i wylio'r digwyddiad gwych hwn ac os ydych yn ddigon ffodus i allu mynd ac yn dymuno anfon negesuon trydar neu negeseuon at Wrecsam Ifanc gyda’ch teimladau, ein gobeithion neu luniau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 
Os nad ydych yn mynd i Ffrainc ac yn gwylio’r bencampwriaeth ar y teledu, mae'n dal yn mynd i fod yn brofiad anhygoel go iawn ac hoffem glywed oddi wrthych. (Rwy’n cyffroi dim ond yn teipio hwn!)
Pob lwc Cymru!
 Twitter #wrecsamifanc, facebook @wrecsamifanc

Dyddiadau Pwysig
11 Mehefin Cymru v Slofacia (5pm yn fyw ar BBC)
16 Mehefin Cymru v Lloegr (2pm yn fyw ar BBC)
20 Mehefin Cymru v Rwsia (8pm yn fyw ar ITV)

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y cyfeiriadau gwe isod.
http://www.bbc.co.uk/sport/football/teams/wales
https://www.facebook.com/FAofWales/
http://www.uefa.com/uefaeuro/season=2016/teams/team=144/matches/index.html


 

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50