Sut fyddech chi’n hoffi gweld Wrecsam yn edrych erbyn 2024?
Dyma’r cwestiwn y mae Bwrdd Gwasanaeth Lleol Wrecsam yn ei ofyn ar hyn o bryd. Mae Bwrdd Gwasanaeth Lleol Wrecsam wedi ysgrifennu cynllun drafft, “cynllun am oes, dewis a llwyddiant yn Wrecsam, 2013 hyd 2024” a byddent yn falch iawn o gael eich adborth i weld a ydynt nhw wedi llwyddo i gael pethau’n iawn.
Mae Bwrdd Gwasanaeth Lleol Wrecsam yn enw ar bartneriaeth ar gyfer nifer o sefydliadau sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau yn Wrecsam er enghraifft, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tn ac Achub Gogledd Cymru a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam. Yn ogystal Phrifysgol Glynd?r, Coleg Il, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd y Cyhoedd Cymru a’r Gwasanaeth Prawf. Edrychwch ar ei gwefan www.wrexhamlsb.org i gael gweld y cynllun drafft a llenwi eu holiadur i roi gwybod beth yw eich barn.
Ni all unrhyw un ragweld y dyfodol. Felly ni allwn ddweud yn union sut y bydd bywyd yn well erbyn 2024, ond gallwn ddweud sut y byddem yn hoffi gweld pethau’n digwydd. Felly, byddwch yn rhan o bethau a dywedwch eich barn.