Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sue Cynghorydd Siop Wybodaeth Wrecsam yn cyfarfod JLS

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 14/02/2012 am 14:06
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Iechyd, Cerddoriaeth, Pobl

Helo, fi ydy Sue, un o'r cynghorwyr yn y siop wybodaeth yn Wrecsam a dwi yma i rannu'r profiad arbennig cefais un diwrnod heulog fis Medi.

Dwi hefyd yn gweithio fel cynghorydd ar-lein i BeatBullying ar brosiect o'r enw CyberMentors. Mae Cybermentors yn ymwneud phobl ifanc yn helpu ac yn cefnogi ei gilydd ar-lein.

Mae BeatBullying efo nifer o gefnogwyr enwog ac un ohonynt ydy JLS. Mae JLS efo diwrnod sylfaen pob blwyddyn i roi arian i'r elusennau maent yn cefnogi ac mae BeatBullying a'r Prosiect CyberMentors yn un ohonynt.

Cefais fy ngwadd, ynghyd 16 o fentoriaid ar-lein ifanc i fynychu diwrnod yn Llundain a chyfarfod JLS am dros awr i gael llofnodion ac i siarad un i un gyda nhw am ein prosiect. Roedd yn ddiwrnod cyffrous ac fel gallet ddychmygu, roeddwn i'n nerfus iawn ond o fewn munudau o'r bechgyn yn cyrraedd roedd y nerfau i gyd wedi diflannu wrth iddynt wneud i bawb deimlo'n groesawus a sgwrsio fel eu bod yn dy adnabod am byth. Llwyddais i gael ychydig o gusanau a dywedais na fyddwn yn golchi fy wyneb byth eto (ond dwi wedi gorfod gan ofni cael sbotiau).

Os wyt ti'n cael dy fwlio, neu'n teimlo ychydig yn isel, neu efallai dy fod yn poeni am rywbeth a ddim yn sicr pwy i fynd ato i siarad gyda nhw, yna CyberMentors ydy'r lle i fynd am gymorth. Mae CyberMentors yma i wrando a chefnogi ti am unrhyw broblem, bach neu fawr, neu os wyt ti'n cael dy dargedu ar-lein neu oddi ar-lein.

Os wyt ti rhwng 11 a 25 oed a hoffet wybodaeth bellach am CyberMentors a dod yn fentor ar-lein i helpu rhai sydd yn cael profiad o fwlio ymwela www.cybermentors.org.uk

I ddarganfod sut i ymuno yn wythnos Gwrth-Fwlio ymwela www.beatbullying.org

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50