Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sbri Olympaidd

Postiwyd gan DylanG o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 07/08/2012 am 11:34
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Chwaraeon a Hamdden

Rydw i’n fyfyriwr yn Ysgol Maelor Llannerch Banna lle mae gennym gyswllt cryf ag ysgol yn Lesotho sef St Saviour’s. Drwy’r cyswllt hwn, mae myfyrwyr ac athrawon o’r ddwy ysgol wedi bod ar ymweliadau cyfnewid am y pum mlynedd diwethaf, gan eu galluogi i brofi diwylliannau gwahanol a chyffrous.  Eleni, roedd pawb yn ein hysgol yn gyffrous iawn o glywed bod Wrecsam wedi ei ddewis fel Gwersyll Hyfforddi Cyn y Gemau ar gyfer Tm Olympaidd Lesotho.

Cyrhaeddodd y tm yr wythnos diwethaf ac maent wedi bod yn brysur yn paratoi eu hunain i gystadlu yn erbyn athletwyr gorau’r byd.  Fodd bynnag, cymerodd y tm yr amser i ymweld ag Ysgol Maelor. Daethant a chymryd rhan mewn gw?l athletau a gynhaliwyd gan Dm Datblygu Chwaraeon Wrecsam ar gyfer clwstwr ysgolion Maelor.  Cyfarfu’rTm Olympaidd gan gr yr ysgol a oedd yn canu cn draddodiadol Basotho ac anthem genedlaethol Lesotho.

Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i ni ddangos ein cefnogaeth i Lesotho yn y Gemau Olympaidd.  Byddant yn gwybod nad Lesotho’n unig fydd yn eu cefnogi ond Wrecsam i gyd hefyd!

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-18867215

http://www.guardian.co.uk/sport/2012/jul/22/olympics-wales-warm-welcome-lesotho?fb=native&CMP=FBCNETTXT9038

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50