Rhowch eich barn chi am y penderfyniadau anodd sy’n wynebu’r Cyngor
Mantoli cyllideb y Cyngor – y penderfyniadau anodd sy’n wynebu’r Cyngor.
Mae Llywodraeth y DU yn gwneud i'r holl Gynghorau drwy'r wlad wario llai ac arbed arian. Caiff pob Cyngor unigol benderfynu sut, ac mae Cyngor Wrecsam am ofyn i chi sut ydych chi'n meddwl y dylai wneud hynny.
A ddylai wario llai ar rai gwasanaethau?
A ddylai godi mwy am rai gwasanaethau?
Ym mha ffordd arall y gallai arbed arian?
Mae cymaint o wasanaethau'r Cyngor yn effeithio ar bobl ifanc - o wasanaethau i blant a phobl ifanc fel ysgolion a chlybiau ieuenctid i'r gwasanaethau mwy cyffredinol fel tai cyngor a chludiant.
I ganfod barn pobl am y ffordd y dylai’r Cyngor arbed arian, aethent ati i gynnal arolwg ar-lein o’r enw DewiswchChi. Roedd hwn yn ymarfer oedd yn cyflwyno cyllideb ffug ac yn gofyn i bobl ddangos sut y dylai’r Cyngor fantoli’r gyllideb honno.
Diolch i bawb ohonoch a gymerodd ran yn yr arolwg. Mae’r arolwg wedi cau erbyn hyn ac mae’r Cyngor yn dadansoddi’r canlyniadau i ganfod beth yw barn pobl. Bydd canlyniadau’r arolwg a’r camau nesaf ar wefan Wrecsam Ifanc.