Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Rhoi Cais Ar Greu Ffilm

Postiwyd gan archifCLICarchive o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 01/11/2011 am 11:16
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Ysgrifennu Creadigol, Ffilmiau

  • film

English version

Daeth fy syniad am y ffilm Open Up To Mondays o'r briff i greu ffilm am pam rwyt ti'n caru dyddiau Llun.

Chwaraeais gydag ychydig o syniadau a genres cyn penderfynu byddai'n gwneud ffilm ramantus 'quirky' gyda thwist.

Astudiais ffilm yn y coleg ac es ymlaen i astudio'r cyfryngau ac ysgrifennu ym Mhrifysgol Glynd?r yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a disgyn mewn cariad gyda chreu ffilm.

Roedd cyfarwyddo golygfeydd yn y brifysgol ac yn neidio i mewn i brofiad gwaith tu allan i'm hastudiaethau wedi rhoi'r sylfaen i mi gychwyn creu ffilmiau fy hun.

Gan ddefnyddio cefnogaeth yr amryw gysylltiadau wnes i tra ar brofiad gwaith yn helpu gwneud y broses cynhyrchu redeg yn fwy esmwyth. Fel mae'r dywediad yn ddweud "Pwy ti'n adnabod ydy ef."

Er fy mod i wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau ffilmio, dyma'r ffilm fer cyntaf i mi gydlynu a chyfarwyddo ar ben fy hun. Roedd y broses efo problemau ond roedd popeth wedi disgyn i mewn i'w le erbyn y diwedd ac roeddwn wrth fy modd gyda phob eiliad ohono.

Mae ffilm yn rhywbeth dwi'n angerddol amdano ac er trafferthion fel dyslecsia dwi wedi penderfynu mai dyma'r diwydiant dwi eisiau bod yn rhan ohono.

Tudalennau Gwneud Ffilmiau ac Animeiddiad

Dyslecsia ar Galw Iechyd Cymru

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50