Lleoliad Gwaith i Hyfforddai Ddysgu am yr Amgueddfa
Lleoliad Gwaith i Hyfforddai Ddysgu am yr Amgueddfa
Ydych chi’n chwilfrydig am wrthrychau a'r straeon gallant eu hadrodd wrthym?
Oes gennych chi ddiddordeb yn eich cymuned a’i gorffennol?
Allech chi ysbrydoli eraill i fwynhau amgueddfeydd a'u casgliadau?
Os ydych yn barod am her newydd a chyffrous, yna efallai y gallai’r cyfle hwn fod ar eich cyfer chi!
Gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mewn partneriaeth â'r Amgueddfa Brydeinig, mae Amgueddfa Wrecsam ar hyn o bryd yn chwilio am hyfforddai i ymuno â'i thîm ar raglen hyfforddi â thâl am flwyddyn.
Diben y rhaglen hon yw i'ch darparu gyda'r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y sector amgueddfeydd felly nid ydym yn disgwyl i chi fod ag unrhyw brofiad blaenorol.
Rydym yn chwilio am bobl:
Sy’n hoffi gweithio gyda’r cyhoedd
Sy’n agored i brofiadau newydd ac yn awyddus i ddysgu
Sy’n gallu dangos y gallant fanteisio ar y cyfle hwn
Sy'n barod i ymrwymo i raglen blwyddyn o hyd o hunanddatblygiad a dysgu
Croesewir ceisiadau yn arbennig gan:
Bobl rhwng 18 a 24 oed
Pobl sy’n newydd i'r sector amgueddfeydd
Pobl sydd eto i gwblhau cymhwyster graddedig
Pobl sydd o fwrdeistref sirol Wrecsam
Byddwch yn cael y cyfle i weithio ym mhob maes o’r amgueddfa gan gynnwys casgliadau, archifau, arddangosfeydd, dysgu, digwyddiadau a gweithio gyda'n hymwelwyr.
Byddwch yn cwblhau Diploma Treftadaeth Ddiwylliannol QCF Lefel 3 erbyn diwedd eich hyfforddeiaeth.
Byddwch yn derbyn bwrsari di-dreth o £13,000
Byddwch yn dechrau eich hyfforddeiaeth ar ddiwedd mis Medi 2016
Rydym yn awyddus i recriwtio pobl sy'n mynd i gael y budd mwyaf o'r rhaglen. Os oes gennych radd, gallwch wneud cais o hyd, ond mae'n bosibl y byddai'r rhaglen o lai o fudd i chi na rhywun heb y cymhwyster hwnnw
Os ydych chi eisoes â phrofiad helaeth o weithio mewn amgueddfa (dros dri mis, llawn amser neu gyfwerth, yn gyflogedig neu’n ddi-dâl) neu gyda chymhwyster ôl-raddedig mewn maes cysylltiedig, yna yn anffodus nid ydych yn gymwys i wneud cais.
I gael manylion am sut i wneud cais, cysylltwch â: Eleri Farley (Dirprwy Swyddog Mynediad ac Addysg)
eleri.farley@wrexham.gov.uk 01978 297460
Cysylltwch â ni cyn 12 Gorffennaf 2016
Mae'r hyfforddeiaeth yn rhan o rwydwaith o ddeg hyfforddai mewn deg amgueddfa wahanol ar draws y DU. Gall unigolion wneud cais i un amgueddfa yn unig.
Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam
01978 297460
museumeducation@wrexham.gov.uk
Stryd y Rhaglaw, Wrecsam, LL11 1RB