Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Help Gydag Enwau

Postiwyd gan DylanG o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 14/08/2011 am 14:46
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth, Gwirfoddoli

  • map

English version

Dwi angen ychydig o gymorth felly dwi'n troi at fyd CLIC!

Yn Ysgol Maelor, Penley, rydym efo cyswllt cryf gydag Ysgol Uwchradd St Saviour yn Leribe, Lesotho. Trwy ein cyswllt, mae myfyrwyr ac athrawon o'r ddwy ysgol wedi gallu gwneud ymweliadau cyfnewid dros y pedair blynedd diwethaf, yn galluogi nhw i brofi diwylliant newydd a chyffrous.

Yn fis Medi rydym yn recordio CD gydag Ysgol Gynradd Overton i helpu casglu arian ar gyfer ein cyswllt. Bydd yr arian yn mynd tuag at alluogi gr?p o fyfyrwyr o Lesotho i ddod i ymweld Chymru yn y flwyddyn ysgol nesaf.

Rydym wedi cael y cyllid i gynhyrchu'r CD o gynllun grantiau Ieuenctid GwirVol ac mae Prifysgol Glynd?r yn gadael i ni ddefnyddio eu cyfleusterau ar gyfer y recordio.

Yr unig beth sydd ar goll ar hyn o bryd ydy enw i'r CD! Mae'r cwmni cynhyrchu CD yn pwyso arnom am enw ond rydym yn dal i geisio meddwl am un digon da. Dyna le gallet ti helpu!

Pls gall unrhyw un feddwl am enw da gallwn alw'r CD? Croesawir unrhyw awgrymiad. Gad sylwad isod!

Newyddion Categoriau Gwirfoddoli

Gwybodaeth - Diwylliant

Gwybodaeth - Cerddoriaeth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50