Gofalu am dy iechyd meddwl
Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 07/01/2013 am 11:08
- Tagiwyd fel Iechyd, Pobl, Materion Cyfoes
Felly, be ydi iechyd meddwl?
Mae iechyd meddwl yn ymwneud sut wyt ti’n meddwl ac yn teimlo a sut wyt ti’n gallu delio throeon bywyd. Mae rhai pobl yn galw iechyd meddwl yn ‘iechyd emosiynol’ neu ‘ffyniant’ ac mae yr un mor bwysig ag iechyd corfforol da. Rydym i gyd yn cael adegau pan fyddwn yn teimlo’n isel neu dan straen a bydd y teimladau hynny’n mynd y rhan fwyaf o’r amser. Ond weithiau gallant ddatblygu’n broblem fwy difrifol, sy’n gallu digwydd i unrhyw un ohonom.
Dydy bod yn emosiynol ac yn feddyliol iach yn golygu nad wyt fyth yn mynd drwy adegau drwg neu gael problemau emosiynol. Rydym i gyd yn cael ein siomi, colled a newid. A, thra bo’r rhain yn rhan arferol o fywyd, meant yn dal i allu achosi tristwch, gwewyr meddwl a straen.
Os wyt yn teimlo’n isel ceisia ddal i wneud dy bethau arferol o fynd i’r ysgol, gwaith neu gyfarfod ffrindiau – unwaith y byddi’n dechrau esgeuluso’r pethau yr wyt yn eu gwneud fel arfer, mae’n hawdd iawn dechrau teimlo ar wahn ac yn unig.
Siarad
Weithiau mae siarad am sut wyt ti’n teimlo’n gallu helpu i ti ddelio ’r sefyllfa neu pan fyddi’n teimlo’n isel. I rai pobl mae siarad yn gallu bod yn ffordd o ymdopi ac weithiau mae’n braf dadlwytho’r problemau sydd wedi bod ar dy feddwl ers tipyn.
Weithiau mae dim ond cael rhywun i wrando’n gallu helpu i ti deimlo bod rhywun yn dy gefnogi ac nad wyt ar dy ben dy hun. Nid rhywbeth gwan ydi siarad – os byddi di’n dweud dy feddwl efallai y bydd pobl eraill yn gwneud yr un fath.
Efallai y byddet yn hapus yn siarad efo’r bobl ganlynol:
Ffrind da
Aelod o’r teulu neu berthynas
Gweithiwr ieuenctid / Gweithiwr Info
Cynghorwr personol
Mae rhwymau teuluol cryf a ffrindiau cefnogol yn gallu helpu i ti ddelio efo straen bywyd. Fe all teulu a ffrindiau edrych ar bethau’n wahanol ac efallai y byddant wedi cael profiad o faterion tebyg a gallu cynnig cyngor i ti.
Mae’n bwysig cadw cysylltiad efo dy ffrindiau. Does dim byd yn well na dal i fyny efo dy fts, ond dydy hynny ddim yn bosibl bob amser. Felly rho ganiad iddynt neu sgwrsia efo nhw ar-lein. Mae’n dda i ti gadw cysylltiad efo dy fts.
Cwsg
Mae bywyd modern yn gwneud i ti beidio meddwl am gwsg – mae’n well mynd allan efo dy ffrindiau ar nos Sadwrn neu decstio, trydar, sgwrsio a chwarae gemau efo nhw yn hwyr y nos. Mae manteision cwsg da’n helpu datblygu ymennydd iach ac iechyd emosiynol / meddwl. Mae rhai pobl sy’n cael llai o gwsg nag sydd arnynt ei angen yn ennill pwysau, yn dioddef iselder, yn methu canolbwyntio na gwneud yn dda, yn llai creadigol a llai o imiwnedd.
Felly, faint o gwsg ydw i angen?
Mae hyn yn dibynnu fwyaf ar dy oed.
-
Mae babanod yn cysgu am ryw 17 awr bob dydd.
-
Dim ond 9 neu 10 awr y mae plant h?n ei angen bob nos.
-
Mae’r rhan fwyaf o oedolion angen rhyw 8 awr o gwsg bob nos.
-
Mae pobl h?n angen yr un faint o gwsg, ond yn aml ni fyddant ond yn cael un cyfnod o gwsg dwfn yn ystod y nos, fel arfer yn y 3 neu 4 awr gyntaf. Wedyn, byddant yn deffro’n rhwyddach. Rydym hefyd yn tueddu i freuddwydio llai wrth i ni heneiddio.
Mae gwahaniaethau hefyd rhwng pobl o’r un oed. Mae’r rhan fwyaf ohonom angen 8 awr bob nos, ond mae ychydig o bobl yn gallu gwneud ar ddim ond 3 awr bob nos.
Gall bechgyn arddegol fod angen rhywfaint o gwsg yn ystod y dydd, yn fwyaf tebygol yn gysylltiedig newidiadau metaboledd a chyrraedd oed aeddfedrwydd. Bydd newidiadau hormonaidd mewn merched arddegol hefyd yn effeithio ar faint ac ansawdd cwsg a, pan ddaw oed aeddfedrwydd a newid clociau biolegol, mae patrymau cwsg yn newid.
Os wyt yn cael trafferth cysgu cofia nad ydi diod alcoholaidd, hyd yn oed yn gymedrol, FYTH yn beth da i helpu cwsg; mae’n achosi iselder, yn sychu’r corff ac mae’n tarfu ar batrymau cwsg naturiol.
Cadw’n Fywiog
Mae ymarfer rheolaidd yn gwella iechyd meddyliol ac emosiynol trwy ryddhau cemigion a hormonau i’r ymennydd trwy ymarfer a gall helpu rhai pobl i ddelio straen a gwella hapusrwydd. Mae ymarfer rheolaidd hefyd yn gallu helpu rhoi hwb i dy hunan-barch, helpu i ti ganolbwyntio, cwsg a helpu i ti edrych a theimlo’n well.
Nid yw ymarfer yn golygu dim ond mynd i’r gampfa – mae amryw ffyrdd o ymarfer. Mewn gwirionedd, mae cyn lleied hanner awr o weithgaredd cymedrol bob dydd, fel cerdded yn gyflym, yn gallu bod yn ddigon i wella iechyd a ffitrwydd. Mae pob math o ffyrdd o ymarfer, ac mae rhywbeth i’w gael ar gyfer pob dull o fyw.
Oeddet ti’n gwybod fod y gweithgareddau canlynol yn gallu cyfrif tuag at dy 30 munud neu fwy bob dydd:
Glanhau dy ystafell wely
Cerdded yn sionc i’r ysgol neu at dy fts
Crefftau Cartref gan gynnwys paentio ac addurno
Hwfro
Smwddio dillad
Ceisia gael hyd i weithgaredd yr wyt yn ei fwynhau ar dy ben dy hun neu efo ffrindiau a gwneud y gweithgaredd hwnnw’n rhan o dy ddiwrnod.
Bwyta’n Dda
Yn union fel y gallon, stumog ac iau, mae’r ymennydd yn organ sy’n ymateb yn fawr i’r mae rhywun yn ei yfed a’i fwyta. I aros yn iach, mae ar yr ymennydd angen gwahanol faint o garbohydradau cymhleth, asidau brasterog hanfodol, asidau amino, fitaminau a mwynau, a d?r.
Mae beth fyddwn yn ei yfed a’i fwyta’n effeithio ar sut fyddwn yn meddwl a theimlo bob dydd o’n bywydau, waeth be fo ein hoed, rhyw neu gefndir teuluol. Nid yn unig ydym yn yfwyr te mawr – mewn wythnos arferol rydym yn yfed 1 biliwn paned – rydym yn gaeth i lawer o fwyd a diod ‘teimlo’n dda’, fel coffi, diodydd ysgafn, diodydd alcoholaidd, sigarts a siocled.
Mae ymborth iach yn cynnwys:
-
Llawer o wahanol fathau o ffrwythau a llysiau.
-
Cynhyrchion llaeth (yn gymedrol)
-
Bara neu rawnfwyd grawn cyflawn
-
Pysgod (hyd yn oed yn well os ydynt yn bysgod oeliog)
-
Cnau a hadau
-
Digonedd o dd?r
Yfed yn gall
Mae defnyddio alcohol i ddelio straen yn syniad drwg. Mae yfed alcohol yn rhwystro i ni gysgu’n iawn ac mae bod yn fyr o gwsg yn gwneud bywyd o bob math yn anoddach. Yn y cyfamser, mae pen mawr yn ei gwneud yn anoddach fyth i ni weithredu’n iawn. Mae hyn i gyd yn creu mwy o straen ac mae hynny’n ei gwneud yn fwy tebygol y byddwn yn datblygu problem ddifrifol efo’n iechyd meddyliol neu gorfforol.
Mae alcohol yn gallu rhyddhau straen am y tro, ond mae’n gyffur sy’n creu iselder. Mae hyn yn golygu os wyt yn teimlo’n isel pan fyddi’n yfed, y tebyg yw bod pethau’n mynd i edrych yn waeth ar l i ti sobri.
Mae mynd allan efo dy ffrindiau a chofio faint wyt ti’n yfed yn berffaith iach a phleserus i’r rhan fwyaf o bobl. Y terfynau alcohol dyddiol cymeradwy yw:
Tair neu bedair uned y dydd i ddynion
Dwy neu dair uned y dydd i ferched
Gofyn am Help
Does yr un ohonom yn oruwchddynol. Weithiau, gallwn ddechrau pethau sy’n mynd yn ormod i ni, fel oriau ychwanegol yn y gwaith, gwaith coleg, teulu a digwyddiadau cymdeithasol hyd yn oed. Does dim byd o’i le efo cyfaddef dy fod wedi gwneud gormod ac, mewn gwirionedd, mae’n bwysig iawn gwybod beth yw dy gyfyngiadau. Rydym i gyd yn blino weithiau neu’n teimlo ein bod yn boddi dan sut ydym yn teimlo neu pan fydd pethau’n mynd o chwith; os yw pethau’n mynd yn ormod i ti a dy fod yn teimlo nad wyt yn gallu dod i ben, gofyn am help.
Gallai’r help hwn ddod gan ffrindiau neu deulu sy’n barod i wrando neu gallai fod ar ffurf cynghori. Cynghori ydi pan fydd cynghorwr yn gweld cleient yn rhywle preifat a chydgyfrinachol i edrych ar broblem sydd gan y cleient.
Cael seibiant
Mae mynd ymhell o bopeth a rhoi dy draed i fyny’n beth da i dy iechyd meddwl ac, er y byddem i gyd yn hoffi mynd i ffwrdd ar y gwyliau arbennig yna, nid yw’n bosibl bob amser. Mae’r pethau bach yn gallu dy helpu hefyd, fel hanner awr oddi wrth dy waith coleg, cymryd yr amser i fod efo ffrindiau neu ddal y bws neu drn a chymryd amser i fynd i rywle newydd.
Mae cymryd seibiant ac ymlacio’n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Mae rhai pobl yn mwynhau ymlacio ar draeth a gwneud dim byd lawer ac mae pobl eraill yn mwynhau gwyliau sgo lle maent yn fywiog iawn drwy’r amser. Mae’n bwysig gwneud rhywbeth yr wyt yn ei fwynhau. Cadw’n brysur.