Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gêm Goffa Speed: Costa Rica

Postiwyd gan FalseNine o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 04/01/2012 am 14:21
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Chwaraeon a Hamdden

  • speed

English version

Ar 27 Tachwedd 2011, darganfuwyd rheolwr Cymru Gary Speed yn farw yn ei gartref yn Huntington, Gaer.

Heddiw, mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cadarnhau fod Cymru yn chwarae gêm coffa yn erbyn Costa Rica. Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 29 Chwefror am 7:45pm, tri mis ar ôl ei farwolaeth.

Enillodd Speed ei gap rhyngwladol cyntaf ar 20fed Mai 1990 gyda gêm fuddugol 1-0 yn erbyn Costa Rica. Y gêm yma oedd y cyntaf a'r unig gêm rhwng y ddwy genedl pêl droed.

Yna aeth ymlaen i sgorio saith gôl mewn 85 o ymddangosiadau.

Rhyddhaodd y Gymdeithas Pêl Droed Cymru boster gyda Speed fel chwaraewr a rheolwr, ac mae'r corf llywodraethu pêl droed Cymru yn disgwyl torf fawr i fynychu'r gêm.
Mae Cymru yn gobeithio apwyntio rheolwr newydd yn fuan yn y flwyddyn newydd mewn amser i'r gêm gyfeillgar hon.

Tocynnau ar gael o ddydd Mercher nesaf (11 Ionawr 2012) ar www.cardiffcityfc.co.uk am £10 i oedolion a dim ond £5 i ieuenctid.

Gwybodaeth – Pêl Droed

Digwyddiadau – Gêm Goffa Gary Speed – Cymru Vs Costa Rica

Erthyglau Perthnasol:

Gary Speed: Arwr Cymru

Wales: Most Improved Side 2011

Ffynonellau: BBC a Wales Online

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50