Fy Nghyfle I i Serennu... daeth yr awr!!!
WAW!!! Mae’r pythefnos diwethaf wedi bod yn gyffrous... a’r cyfan oherwydd yr hogiau yn INFO siop Wrecsam. Ydw, rydw i’n sn am gario’r Fflam Olympaidd drwy fy nhref fy hun!! Fe godais am 3.30am y bore hwnnw ac roeddwn yn hollol effro (sy’n anarferol i mi, oherwydd rwy wrth fy modd yn fy ngwely – onid yw pawb?). Beth bynnag, fe godais a gwisgo fy siwt, wedyn stopiais am funud a meddwl, fedra i ddim coelio y bydda i’n rhedeg gyda’r ffagl Olympaidd – y ffagl unigryw – ymhen cwpl o oriau. Roedd yn anodd ei goelio. Cychwynnodd dad a fi i gyfeiriad Caer am 4am – i’r man cyfarfod yn yr Holiday Inn. Cawsom gyfle i gwrdd ’r bobl eraill a fyddai’n cario’r ffagl drwy Wrecsam, a chlywed rhai o’u hanesion nhw – pam y cawsant eu henwebu, roeddent i gyd yn wych i’w clywed – ac oedden, roedden ni i gyd yn nerfus. Fe gwrddon ni ’r tm oedd yn gwneud y daith y gyfnewid o un diwrnod i’r nesa - 400 o bobl i gyd!! Roedd popeth yn rhedeg i’w amser yn berffaith ganddyn nhw. Dywedodd un dyn y bydden ni’n cychwyn am 6.11am ac fe wnaethon ni hynny i’r funud. Roedd pedwar person yn rhedeg yng Nghaer cyn inni gychwyn i gyfeiriad Wrecsam. Roedd y tyrfaoedd yn wych; mae meddwl fod pobl yn dod allan i’ch gwylio chi mor gynnar hynny yn y bore yn anhygoel!
Ar l inni orffen gollwng y rhai oedd yn cludo’r fflam yng Nghaer (oherwydd roedden ni’n symud i fws arall ar l gwneud ein cymal ni) i ffwrdd ni tuag at Wrecsam... daethom rownd y gylchfan ar dop Ffordd yr Wyddgrug ac roedden ni i gyd wedi’n syfrdanu!! Roedd y nifer o bobl oedd wedi troi allan yn cynhesu’r galon. Des oddi ar y bws lle’r oeddwn i i fod i gychwyn ac edrych o gwmpas, a dechreuodd fy mhengliniau grynu fel deilen... roedd y nifer o bobl yn anhygoel. Roeddwn yn sefyll yno am ryw 5 i 8 munud yn disgwyl am y ffagl a’m cyfle i i gychwyn, ond wnes i ddim sefyll yn llonydd oherwydd roedd pawb yn tynnu fy llun, hyd yn oed nes imi symud allan at y ffagl.
A dyma hi... Flwyddyn yn ddiweddarach roedd y ffaglau’n cusanu a chafodd y fflam ei throsglwyddo i mi. Roedd deg heddwas o’m cwmpas, dywedodd un ohonyn nhw ‘iawn, rydyn ni’n mynd i loncian yn ara deg ar hyd y ffordd' a dywedais innau 'Na, rydw i am gerdded " (oherwydd y pengliniau crynedig), dywedodd yntau "mae hynny’n iawn, mwynha bob eiliad"... yna roedden ni ar ein ffordd yng nghanol y bloeddio gwallgof, a finnau’n gweld pawb ac yn teimlo’n falch. Roedd y bobl yn fy nilyn ar hyd y ffordd, roedd pobl yn hapus, yn cro, yn rhedeg a phopeth. Anghofia i fyth y foment honno. Wrth imi fynd rownd y tro a gweld fy ffrindiau agosaf a’m teulu, gwnaeth imi sylweddoli mor falch oedden nhw drosta i. Wedyn cyrhaeddais y cludwr nesaf a phasio’r fflam ymlaen, cusanu eto (y ffaglau nid y cludwyr, hi hi) a dyna ni, roedd drosodd mewn fflach. Ces dreulio munud gyda’r teulu wedyn roedd rhaid imi fynd yn l ar yr ail fws a chael fy nghludo yn y confoi. Ces gymeradwyaeth gan y cludwyr eraill i gyd wrth fynd ar y bws ac roedd y teimlad yn wych... wedyn tynnwyd llawer iawn iawn o luniau ac roeddem yn l yn yr Holiday Inn am 9.10am. Ac roedd y cyfan ar ben... Neu felly y tybiwn!
Fel y dywedais, mae’r pythefnos diwethaf wedi bod yn wych! Daeth pobl ataf yn fy llongyfarch ar y cyfle, mae pobl wedi bod yn anfon negesuon e-bost ac yn fy ffonio am apwyntiadau a bu pobl yn cnocio ar y drws yn gofyn am lun (ond dim llofnod hyd yma ;) ). Dydd Iau nesaf mae gen i 5 apwyntiad i fynd iddynt, bydd un ohonynt yn arbennig iawn i mi... cewch wybod wythnos nesaf beth oedd:)