Fy amser i ddisgleirio ...
Dechreuodd y cyfan gyda’r Gweithwyr Ieuenctid yn y Siop Wybodaeth yn Wrecsam yn fy enwebu i am y cyfle unwaith mewn bywyd hwn. Pan wnaethon nhw ofyn os oedd yn iawn iddyn nhw fy enwebu i, fe ddywedais i ‘Byddai’n fraint ac yn anrhydedd’. Ar l hynny roedd rhaid i mi aros tan fis Rhagfyr 2011 cyn cael gwybod fy mod i wedi cael fy newis. Rydw i wedi clywed bod degau o filoedd o bobl wedi eu henwebu ac roeddwn i’n meddwl ‘Ydy fy stori i’n ddigon gafaelgar i gymryd rhan mewn rhywbeth mor fawr hyn’ a’r ateb oedd bod fy stori wedi taro deuddeg. Pan gefais y neges e-bost ym mis Rhagfyr roeddwn i ar ben fy nigon, a doeddwn i ddim yn medru credu mod i’n mynd i fod yn gwneud hyn. Fe wnaethon nhw ofyn i mi gadw’r cyfan yn ddistaw tan fis Mawrth dim ond fy nheulu a ffrindiau agos gafodd wybod. Roedd hyn oherwydd bod rhaid iddyn nhw gynnal gwiriadau diogeledd ar bawb cyn gwneud y newyddion yn gyhoeddus ddydd Llun diwethaf (19 Mawrth).
Ddydd Gwener cefais neges e-bost arall yn dweud fy mod i’n gludwr swyddogol y ffagl ar gyfer Gemau Olympaidd 2012, yn rhedeg yn Wrecsam ddydd Mercher, 30 Mai. Roeddwn i’n na, dydy geiriau ddim yn gallu disgrifio sut roeddwn i’n teimlo ond unwaith eto doeddwn i ddim yn cael dweud wrth y byd tan ddydd Llun. Pan ddaeth dydd Llun fe wnes i ddweud wrth fy holl ffrindiau ar Facebook a phawb roeddwn i’n eu nabod. Roedd yr ymateb a gefais i ddydd Llun a’r dyddiau canlynol yn rhyfeddol!!! Roedd pawb yn dweud ‘da iawn’ a ‘llongyfarchiadau’. Fe wnaeth hynny wneud i mi sylweddoli pa mor fawr ydy’r digwyddiad hwn, pawb yn siarad am y peth ac yn dweud y byddan nhw’n dod i ’ngwylio i ar y diwrnod, ac roedd hynny’n fy ngwneud yn falch iawn o fod yn un o’r unigolion sy’n cynrychioli pobl o Wrecsam.
Flwyddyn yn l roeddwn i’n gwybod am Gemau Olympaidd 2012, ond doeddwn i ddim yn gwybod y buaswn i’n cael y cyfle gwych yma, ac rydw i mor ddiolchgar i’r Gweithwyr Ieuenctid yn y Siop Wybodaeth, Lowri, Lisa a Kath, a wnaeth ddangos eu ffydd ynof a dangos eu bod yn credu y buaswn i’n medru cymryd rhan yn y digwyddiad enfawr hwn. Mi fuaswn i’n hoffi dweud diolch o galon wrthyn nhw a fy nheulu a’m ffrindiau sydd eisoes wedi dangos eu cefnogaeth yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Rydw i mor falch fy mod i’n dod o Wrecsam!!!