DIWRNOD DIM YSMYGU
Beth yw’r Diwrnod Dim Ysmygu?
Mae’r Diwrnod Dim Ysmygu’n ymgyrch ymwybyddiaeth iechyd flynyddol sy’n helpu ysmygwyr sydd eisiau rhoi’r gorau iddi.
Cafwyd y Diwrnod Dim Ysmygu cyntaf ar Ddydd Mercher y Lludw yn 1984 ac erbyn hyn mae’n digwydd ar yr ail Ddydd Mercher ym mis Mawrth.
Rhoddodd fwy na miliwn o bobl y gorau i ysmygu ar y Diwrnod Dim Ysmygu yn 2008.
Pam ei fod yn bwysig?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod ysmygu’n ddrwg iawn i’i iechyd.
Mae’n cynyddu eich risg o gael canser yr ysgyfaint, mathau eraill o ganser, trawiad ar y galon, strc a chlefyd cronig yr ysgyfaint
Mae hefyd yn arogli’n ddrwg ac yn costio’n ddrud.
Pam ddylwn i stopio?
Er mwyn eich iechyd. Er enghraifft, ar l 20 munud mae eich pwysedd gwaed a churiad eich calon yn normal eto, ar l 48 awr does dim nicotin ar l yn y corff ac mae eich gallu i flasu ac arogli’n llawer gwell, ac ar l blwyddyn mae’r risg o gael trawiad ar y galon wedi’i haneru.
I gael mwy o arian. Er enghraifft bydd rhywun sy’n ysmygu 20 y diwrnod yn arbed £40 yr wythnos, £176 y mis neu £2111 y flwyddyn!
Er diogelwch. Er enghraifft, roedd 65% o’r marwolaethau damweiniol yn y cartref yng Nghymru yn 2007/8 wedi’u hachosi gan ddefnyddiau ysmygu ac, ar gyfartaledd, mae 10 o bobl yn cael eu hanafu bob mis hefyd gan dn sydd wedi’i achosi gan ddefnyddiau ysmygu.
Er mwyn bod mwy o ynni.
Fel nad ydych yn heneiddio cyn eich amser
Fel bod eich dannedd yn fwy gwyn.
I ostwng straen.
Fel eich bod yn gallu blasu ac arogli’n well
Er mwyn iechyd eich teulu a’ch cyfeillion.
Awgrymiadau da’r Diwrnod Dim Ysmygu i’ch helpu i roi’r gorau iddi’n llwyddianus.
Dewch o hyd i gyfaill sy’n mynd i roi’r gorau i ysmygu hefyd.
Taflwch flychau llwch, tanwyr a sigarts yn y bin.
Cofrestrwch ar gwrs atal ysmygu rhad ac am ddim y GIG.
Ceisiwch osgoi unrhyw un nad ydynt yn cefnogi eich cais.
Ewch allan am dro bob tro y byddwch yn cael eich temtio i ysmygu.
Ymunwch ’r gampfa a mwynhau bod yn iach.
Llenwch yr oergell gyda byrbrydau iach, isel mewn calorau fel ffyn moron a seleri felly os cewch eich temtio i fwyta yn lle ysmygu wnewch chi ddim ennill pwysau
Cynilwch yr arian rydych yn ei arbed.
Ymhle gaf i wybodaeth a chyngor?
Gallwch gael y rhain gan eich meddyg teulu neu fferyllydd, neu o’r mannau dilynol:
www.stopsmokingwales.com 0800 085 2219 (yng Nghymru)
Rydych 7 gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i ysmygu os defnyddiwch Dim Smygu Cymru nad y byddech o roi cynnig arni ar eich pen eich hun.
www.gosmokefree.nhs.uk 0800 169 0 169
(llinell gymorth rhoi’r gorau i ysmygu GIG Cymru a Lloegr)
www.quit.org.uk 0800 00 22 00
Mae cynghorwyr sydd wedi’u hyfforddi’n cynnig cefnogaeth barhaus yn rhad ac am ddim ar y ffn, ebost, testun a’r we.
www.stub.org.uk Gwefan ddwyieithog i bobl ifainc