Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Diwrnod cyntaf y tymor pl droed

Postiwyd gan wrexhamrule o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 05/10/2012 am 12:52
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Chwaraeon a Hamdden

Roedd hi'n ddydd Sadwrn, yr 11eg o Awst, ac mi godais am 8am, oedd yn gymharol gynnar i mi. Roeddwn i wedi codi'n gynnar gan fy mod yn gwirfoddoli yn yr ysbyty lleol am hanner awr wedi naw, a doeddwn i ddim am fod yn hwyr. Cefais amser da yn yr ysbyty gan fy mod mewn hwyliau da ac yn edrych ymlaen at y tymor pl droed ddechrau. Roedd hi'n 11.30am erbyn i mi orffen fy ngwaith, felly chwiliais am rywbeth i'w fwyta a chael hyd i'r McDonalds agosaf. Gorffennais fy McDonalds ac yna mynd i wneud ychydig o siopa o amgylch y dref.

Tua hanner awr wedi un, roeddwn i'n gwybod y byddai'n rhaid i mi ddechrau ymlwybro at y cae, gan fy mod yn cwrdd ffrind yn y dafarn yno am ddiod cyn y gm. Roedd hi'n braf cael gweld fy ffrind am sgwrs cyn i'r gm ddechrau. Ar l cael ein diod, aethon ni i'n seddau yn y stadiwm lle dechreuais siarad 'r bobl oedd o'm hamgylch a sgwrsio gyda gweddill fy ffrindiau. Roedd yr awyrgylch yn y stadiwm yn drydanol cyn y gic gyntaf gan fod pawb yn llawn optimistiaeth (hon oedd gm gyntaf y tymor, ond rwy'n amau na fydd pawb yn teimlo mor obeithiol wrth i'r tymor ddod i ben).

Wedyn, daeth hi'n bryd i'r chwaraewyr ddod ar y cae, ac mi wnaeth hynny wneud yr awyrgylch yn fwy cynhyrfus fyth. Trodd yr awyrgylch yn fwy trydanol fyth gan fod yr holl gefnogwyr am ddangos eu cefnogaeth i'r chwaraewyr, gyda'r gobaith y bydden nhw'n chwarae'n well.

Dechreuodd pethau'n dda iawn i ni, oherwydd roedd hi'n 1-0 ar l 16 munud pan gyflawnodd Robert Ogleby gamp anhygoel wrth ddychwelyd y bl yn uchel i mewn i'r gl, dros ben y gl-geidwad. Roedd y foment honno'n wych, oherwydd cododd cefnogwyr Wrecsam eu lleisiau wrth i gefnogwyr Woking dewi - roedden nhw'n gwybod nad oedd eu tm yn chwarae'n dda iawn ac erbyn hyn yn colli.

Aeth pethau'n well fyth i Wrecsam ychydig cyn yr hanner amser. Bryd hynny, newidiwyd y sgr i ddwy gl i ddim ar l 41 munud pan lithrodd Dean Keates y bl i gefn y rhwyd ar l i Brett Oremerod ei chicio ar draws y bocs. A bod yn deg, dydw i ddim yn meddwl i'r gl-geidwad gael llawer o gyfle i amddiffyn rhag yr ail gl, gan na chafodd o unrhyw help gan yr amddiffynwyr. Ar hanner amser, yn l y sgyrsiau rhwng y cefnogwyr, roedd pawb yn hapus gyda'r ffordd yr oedd y tm wedi chwarae, ac roedd y ffaith ein bod ni'n ennill o ddwy gl i ddim yn well fyth.

Yn yr ail hanner, cawsom ychydig o fraw gan Woking oherwydd llwyddon nhw i ennill tir drwy sgorio un gl gan newid y sgr yn 2-1. Doedd y gl ddim yn un dda iawn mewn gwirionedd, ac roedd hi'n gl wirion i'w hildio gan na fu'n rhaid i'r ochr arall weithio'n galed iawn i'w sgorio. Digwyddodd y gl pan giciodd y gl-geidwad y bl yr holl ffordd at y saethwr, ac yna fe gafwyd rhywfaint o ddiffyg cyfathrebu rhwng ein hamddiffynwyr, ac yn y pen draw, chafodd neb y bl. Roedd hyn yn golygu y gallai'r saethwr redeg drwy ein hamddiffyniad, cymryd y bl a'i chicio drwy goesau'r amddiffynwyr.

Roedd hyn yn ddrwg i ni, oherwydd cododd cefnogwyr y tm arall eu lleisiau am eu bod nhw'n credu y gallen nhw gael pwynt o'r gm, am eu bod nhw'n credu eu bod nhw yn l ynddi hi. Ar l hynny, llwyddodd ein gl-geidwad i atal y bl rhag cyrraedd y rhwyd mewn arbediad anhygoel er mwyn sicrhau ein bod yn dal i fod ar y blaen, ac roeddwn i'n dechrau poeni.

Roedd angen i ni ennill trydedd gl o rywle, a thrwy lwc cawsom gic gornel, ac aeth ein hamddiffynnydd Mark Creighton i gicio'r bl o'r gornel a llwyddo i fynd heibio amddiffynwyr y tm arall i sgorio. A ninnau ar y blaen o dair gl i un, roeddwn yn llawer mwy sicr y byddai'r tm yn ennill, a dyna sut y daeth y gm i ben, ac rwy'n credu mai ni oedd yn haeddu ennill gan ei bod hi'n amlwg mai ni oedd y tm gorau.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50