Delwedd Annheg
English version
Yng nghymdeithas heddiw, mae’r cyfryngau yn chwarae rhan anferth ym mywydau pawb. Mae’n gallu dylanwadu ar y ffordd mae pobl yn ymddwyn, meddwl a sut maent yn byw eu bywydau. Gyda’r fath ddylanwad ar bobl drwy’r teledu, papurau newydd a radio, mae'r ffordd mae grwpiau o bobl yn cael eu portreadu yn bwysig iawn.
Fel person ifanc, rwyf yn teimlo fod y ffordd mae pobl ifanc yn cael ei bortreadu yn y cyfryngau yn annheg. Yn y blynyddoedd diweddar, mae pobl ifanc wedi dod i gael eu stereoteipio yn negyddol. Nid pobl ifanc ydym ni bellach, ond ‘hwdis’ a ‘yobs’.
Gall ystyried fod y ddelwedd negyddol o bobl ifanc yn gyfrifioldeb y cyfryngau a’r ffordd maent yn dangos pobl ifanc. Bob dydd rydym yn gweld storiu yn y newyddion sydd yn darlunio pobl ifanc mewn ffordd negyddol. Dwi’n credu fod 88% o’r erthyglau yn y cyfryngau am bobl ifanc yn negyddol. Mae’r storiu hyn yn adrodd ymddygiad ychydig o unigolion sydd yn dewis achosi trwbl, i boeni pobl eraill ac i anufuddhau’r gyfraith.
Ond pam ddylai ymddygiad yr unigolion yma effeithio delwedd pob person ifanc? Nid ydym ni, fel pobl ifanc, eisiau cael ein barnu yn llwyr ar ymddygiad eraill. Yn hytrach, rydym eisiau cael ein barnu ar bwy ydym ni. Mewn arolwg gafodd ei wneud gan y Cyngor Ieuenctid Prydeinig, darganfuwyd fod 98% o bobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu portreadu yn annheg gan y cyfryngau. Dywedodd un person ifanc gymerodd rhan yn yr arolwg:
“Nid ydym eisiau cael ein barnu yn llwyr ar ymddygiad ychydig o unigolion sydd yn goffi creu trafferth.”
Darganfuwyd hefyd fod 80% o bobl ifanc yn teimlo nad yw’r genhedlaeth hyn yn dangos digon o barch iddynt. Nid yw’r diffyg parch hwn oherwydd nad ydy pobl ifanc yn haeddu parch neu am nad ydynt wedi gwneud digon i ennill parch. Mae o ganlyn fod llawer o bobl hŷn efo delwedd o sut mae pobl ifanc cyn hyd yn oed eu cyfarfod.
Mae’r cyfryngau wedi achosi pobl i feddwl fod pob person ifanc yn cario cyllell, yn cymryd cyffuriau, yn ysmygu ac yn yfed alcohol. Nid i gadw eu hunain yn gynnes mae unrhyw un sy’n gwisgo cwfl, ond yn ceisio cuddio eu hunain ac yn ceisio cuddio o’r gyfraith. Yng nghymdeithas heddiw, mae ofn pobl ifanc. Mae’r gair ieuenctid yn awr yn cael ei gysylltu throseddu ac ymddygiad gwrth cymdeithasol yn awtomatig. Mae hyn yn annheg ac yn label anghywir i roi i bob person ifanc.
Mae’r straeon rydym yn ei weld yn y cyfryngau yn wir iawn ac mewn rhai achosion yn gallu bod yn ddifrifol iawn. Mae yna bobl ifanc sydd yn gwneud bywydau pobl yn ddiflas, sydd yn achosi nifer o broblemau, ond ni ddylai ymddygiad yr unigolion hyn effeithio’r ddelwedd o bob person ifanc. Cwblhaodd yr Ymddiriedolaeth y Tywysog (Prince’s Trust) arolwg oedd yn dangos mai llai na 10% o bobl ifanc sydd yn cario cyllyll, cymryd cyffuriau neu’n ymuno gangiau. Mae pobl ifanc heddiw hefyd yn ddwywaith fwy tebygol i aros yn yr ysgol wedi 16 oed nag yr oeddent 35 mlynedd yn l.
Mae’r wasg efo’r hawl a’r ddyletswydd i adrodd y newyddion a chadw ni’n wybodus gyda’r digwyddiadau yn y wlad. Ond, yn anffodus, canlyniad o hyn ydy fod y ddelwedd o bobl ifanc i gyd yn cael ei effeithio. Pan mae pobl yn darllen y storiu negyddol hyn bob dydd mae’n camarwain nhw i sut mae pobl ifanc i gyd. Maent yn cychwyn creu barn am bobl ifanc i gyd o beth maent yn ei weld yn y cyfryngau. Wrth i fwy a mwy o storiu gael eu cyhoeddi am bobl ifanc sydd yn dewis achosi problemau, mae’r bobl ifanc eraill yn dioddef.
Rydym ni fel pobl ifanc yn gorfod profi’r cyfryngau yn anghywir. Mae’n ymddangos fel ein bob yn ddiddorol dim ond pam rydym yn torri’r gyfraith. Mae’n rhaid i ni ddangos i’r cyfryngau ein bod yn wahanol iawn i’r ffordd maent yn ein portreadu.
Yn ogystal ’r rhai sydd yn dewis torri’r gyfraith, mae nifer fawr o bobl ifanc sydd ddim yn ffitio i’r stereoteip negyddol sydd wedi’i chael ei roi iddynt. Mae llawer o gynlluniau o gwmpas y Deyrnas Unedig sydd yn ceisio newid y canfyddiad o bobl ifanc. Esiampl o un o’r rhain ydy’r ymgyrch See the Good Behind the Hood ym Mirmingham. Amcan y cynllun hwn ydy i hyrwyddo delweddau positif o bobl ifanc.
Nid yw’r cynlluniau hyn yn ddigon yn eu hunain i newid y stereoteip negyddol sydd wedi cael ei greu gan y cyfryngau. Mae'r cyfryngau heddiw yn llawn o ddelweddau negyddol sydd yn achosi pobl i farnu ni heb adnabod ni yn wirioneddol. I’r cyfryngau, mae pob person ifanc yn mynd o gwmpas mewn cwfl, yn cymryd cyffuriau, yfed alcohol ac ysmygu. Ond mewn gwirionedd, nid fel hyn mae hi. Tu l i’r delweddau negyddol mae yna rhai sydd yn wahanol i’r label sydd wedi cael ei roi arnom. Mae’r mwyafrif o bobl ifanc yn hollol wahanol i sut maent yn cael ei bortreadu: rydym yn bobl sydd yn gweithio’n galed sydd ddim eisiau cael ein barnu am ein hoedran. Mae yna nifer o bobl ifanc sydd mewn timau chwaraeon, clybiau ieuenctid, corau, cynghorau ysgol a’r rhai sydd yn gwneud llawer o bethau eraill i helpu’r cymunedau maent yn byw ynddo.
Mae llawer o bobl ifanc eisiau cael eu gweld fel oedolion ifanc yn hytrach nag ieuenctid. Mae llawer eisiau bod ymglymedig ’r penderfyniadau sydd yn cael effaith ar ein bywydau. Rydym eisiau gallu cymryd cyfrifioldebau, i gael ein gweld yn aeddfed ac i allu ennill y parch mae nifer o bobl ifanc yn ei haeddu.
Dylai’r cyfryngau adrodd mwy ar lwyddiannau pobl ifanc a ddim yn unig ar yr ochr negyddol. Ni ddylai pob person ifanc gael ei gosbi oherwydd ymddygiad rhai unigolion. Dwi’n teimlo fod llawer mwy angen ei wneud i wella’r canfyddiad o bobl ifanc fel bod ymddygiad hunanol rhai unigolion ddim yn effeithio’r ddelwedd ohonom i gyd.
Linciau Perthnasol:
WalesOnline: Goodies in Hoodies aim to change perception of young people