Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 02/07/2013 am 09:34
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Hinsawdd, Addysg, Amgylchedd, Pobl, Materion Cyfoes

19 Gorffennaf 2013, 09.45 - 12.00

Gellir neilltuo sedd i wylio trafodion cyfarfod cyhoeddus y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener 19 Gorffennaf 2013 yn Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog, Wrecsam rhwng 09.45 a 12.00.

Bydd y cyfarfod yma yn ffocysu ar prosiectau seilwaith mawr gydag pwyslais penodol ar esiamplau yng Ngogledd Cymru gan gynnwys trydaneiddio rheilffyrdd, gwelliannau i’r A55 ac ynni niwclear ac adnewyddadwy.

Mae’r Pwyllgor yn gwahodd cwestiynau i’r Prif Weinidog drwy Twitter gan ddefnyddio #HiHPWC, a thrwy eu nodi ar dudalen Facebook y Cynulliad: www.facebook.com/cynulliadcenedlaetholcymru
Dim ond cwestiynau sydd yn berthnasol i’r meysydd polisi uchod fydd yn cael ei hystyried a bydd hyd at bum cwestiwn yn cael eu dewis a fydd yn ychwanegol at gwestiynau’r Aelodau eu hunain i’r Prif Weinidog.
Mi fydd hefyd sesiwn agored yn dilyn y trafodion ffurfiol i ofyn cwestiynau neu rhoi sylwadau i’r Pwyllgor.

I neilltuo sedd:
ffoniwch 0845 010 5500; neu
anfonwch neges e-bost at archebu@cymru.gov.uk

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50