Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cydlynu Cymunedol

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 22/07/2013 am 11:58
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Materion Cyfoes

Cydlynu cymunedol yw’r gallu sydd gan holl gymunedau i weithredu a thyfu mewn cytgord gyda’i gilydd yn hytrach na gwrthdaro. Ei fwriad yw meithrin cymunedau lle mae pobl yn teimlo’n hyderus eu bod yn perthyn ac yn braf yn cymysgu ac yn rhyngweithio gydag eraill, gan gynnwys pobl o wahanol cefndiroedd ethnig neu bobl o wahanol ffydd.

Mae Adran Cydlynu Cymunedol Cyngor Wrecsam yn gweithio i Strategaeth Cydlynu Cymunedol ac mae’r strategaeth honno’n canolbwyntio ar y pethau sydd gennym ni bobl Wrecsam yn gyffredin yn hytrach na’n gwahaniaethau. Mae ‘Un Wrecsam’ yn hyrwyddo gweithgareddau sy’n annog pobl i fod â gwell dealltwriaeth o’r amrywiol gymunedau sy’n ffurfio Wrecsam.

I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â Chydlynu Cymunedol

Dwy enghraifft o’r gwaith a ddatblygodd ‘Un Wrecsam’ yw ‘Siarter Perthyn i Un Wrecsam’ a’r ‘Trosedd Casineb – Prosiect Hysbysu Trydydd Parti’.


 Digwyddiadau Casineb

Beth yw Digwyddiadau Casineb?

Digwyddiad casineb yw pan fydd rhywun yn ymosod ar rywun arall ar lafar, mewn llythyr, trwy e-bost neu’n gorfforol ar sail eu hatgasedd o unigolyn neu bobl o grŵp arbennig.
Gall unrhyw un ddioddef trosedd casineb.
Gall pawb chwerthin a jocian ond mae’n bwysig sylweddoli os ydych yn bwriadu brifo a gofidio pobl oherwydd eu bod:

yn anabl;
o wahanol hil neu ethnigrwydd;
o ffydd neu gred arbennig;
o gyfeiriadedd rhywiol arbennig;
o anian trawswisgol neu drawsrywiol;

yna rydych yn torri’r gyfraith.
Diffiniad Digwyddiad Casineb yw:
Unrhyw drosedd y mae’r dioddefwr neu unrhyw un arall yn teimlo iddo gael ei gymell gan atgasedd rhagdybiedig o grŵp.
Mae modd cysylltu hiliaeth â’r canlynol:
 Unrhyw gefndir ethnig
 Unrhyw genedligrwydd [gan gynnwys Cymry a Saeson]
 Pobl oddi tramor
 Sipsiwn a chrwydriaid
Mae modd cysylltu anabledd â phobl gyda’r canlynol
 Anableddau iechyd meddwl
 Anableddau corfforol
 Anableddau synhwyraidd
 Anableddau dysgu
Mae modd cysylltu ffydd neu gred â phobl
o unrhyw ffydd o gwbl, er enghraifft:
 Cristionogol
 Moslemaidd
 Iddewig
 Bwdaidd
 Hindŵaidd
 Sicaidd

unrhyw gred o gwbl, er enghraifft:
 Dyneiddiol
 Dim cred yn unrhyw beth o gwbl

Mae modd cysylltu homoffobig â:
 Hoyw
 Lesbiaidd
 Deurywiol
 Gwahanrywiol
 Trawswisgol
 Trawsrywiol
 Rhai enghreifftiau o ddigwyddiadau casineb yw:
• poeri at bobl
• dweud jôcs cas wrth bobl i’w brifo
• ymosodiadau corfforol
• cam-drin geiriol
• difrodi eiddo
• llythyrau, taflenni, e-byst a negeseuon testun cas
• bwlio a bygwth
• arwyddion amharchus

Hysbysu digwyddiad casineb

Gallwch hysbysu digwyddiad casineb yng Ngorsaf Heddlu Wrecsam, i unrhyw Swyddog Heddlu neu mewn nifer o wahanol ganolfannau cymunedol yn Wrecsam, sy’n cael eu galw’n Canolfannau Hysbysu Trydydd Parti

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn hysbysu?

Cafodd staff yn y Canolfannau Hysbysu Trydydd Parti eu hyfforddi sut i dderbyn eich gwybodaeth. Datblygwyd ffurflen arbennig a bydd nifer o gwestiynau’n cael eu gofyn i chi. Bydd yr holl wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw’n gydgyfrinachol.


A fydd fy ngwybodaeth yn cael ei rhannu efo rhywun arall?

Rydym eisiau sicrhau eich bod yn cael gymaint o gymorth a chefnogaeth ag y gallwn ond mae’n bwysig eich bod yn penderfynu beth ydych am i ni wneud.

Byddwn yn gofyn i chi a gawn ni rannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau cynorthwyo. Ni fyddwn yn dweud wrth neb ond yr asiantaethau hynny y rhowch ganiatâd i ni ddweud wrthynt.

Os na fyddwch yn gadael i ni rannu’ch gwybodaeth ni fydd yn cael ei defnyddio heblaw i helpu i ni ddatblygu’r prosiect i gyd.

Beth sy’n digwydd pan nid yw’r dioddefwr yn siarad Cymraeg na Saesneg?

Os nid yw dioddefwyr yn siarad Cymraeg na Saesneg gallant ddal i hysbysu yn rhai Canolfannau Hysbysu Trydydd Parti – rhoddwyd gwybodaeth Bwyleg a Phortiwgaleg yno.

Sylwch: mae cefnogaeth cyfieithydd ar gael yn yr holl asiantaethau statudol sy’n cymryd rhan yn y prosiect, e.e. Swyddfeydd Tai Ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru.
Asiantaethau cymorth


Cymorth i Ddioddefwyr
Rydym yn elusen genedlaethol sy’n rhoi cymorth cydgyfrinachol ac am ddim i ddioddefwyr trosedd, tystion, eu teuluoedd, cyfeillion a phawb arall sy’n cael eu heffeithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr.

Siarter o Berthyn Un Wrecsam

Tystysgrif syml yw Siarter o Berthyn Un Wrecsam sy’n cyflwyno datganiad o werthoedd ac ymrwymiad. Gall asiantaethau statudol, mudiadau gwirfoddol a chymunedol a busnesau “ymrwymo” i’r Siarter gan wneud datganiad cyhoeddus drwy hynny o ymrwymiad i’w gwerthoedd. Tra nad yw’r Siarter yn gytundeb sy’n rhwymo mewn cyfraith, dros gyfnod gobeithiwn y daw’n symbol o arferion lleol da mewn cysylltiad â materion cydlyniad a chydraddoldeb.

Siarter o Berthyn y Plant

Gweithiodd grŵp o blant o Ysgol Gynradd y Santes Fair yn Wrecsam gyda’i gilydd i ddylunio fersiwn y plant o’r Siarter y mae ysgolion ar hyd a lled y fwrdeistref sirol wedi ymrwymo iddi. Beth am weld a yw eich ysgol wedi ymrwymo iddo?

http://www.wrexham.gov.uk/assets/pdfs/community_cohesion/childrens_one_care_wrexham.pdf

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50