Clybiau Ieuenctid Brymbo, Coedpoeth a Thanyfron
Ar y 15fed Awst, aeth 32 o bobl ifanc o Frymbo, Coedpoeth a Thanyfron ar fws am 6. 00am – ie, 6 y bore – i fod yn rhan o brosiect cydlyniant cymunedol a drefnwyd gan weithwyr ieuenctid Brymbo (Rich a Mandy).
Fel y gallwch ddychmygu, roedd pawb wedi ymldd, dydw i erioed wedi gweld pobl yn bwyta cymaint o sbwriel mewn diwrnod. Roedd gan y bobl ifanc i gyd dda-da, diodydd egni a phecynnau bwyd ond roedd y rhan fwyaf o’r rhain wedi mynd erbyn 8 pan stopion ni yn Henffordd am baned a seibiant, a manteision y rhan fwyaf o’r bobl ifanc ar y cyfle i brynu rhagor o dda-da.
Y lle cyntaf inni fynd iddo oedd y Pwll Mawr ym Mlaenafon lle’r aethom am daith dan ddaear, ac roedd yn anhygoel. Aethom i lawr 90 metr yn lifft gawell y glowyr, pob un het galed a lamp glwr. Siaradodd Alan, ein tywysydd, am lo Cymru a’r gwahanol ddefnyddiau a gloddiwyd allan o Gymru. Glo o Gymru oedd yn cael ei ddefnyddio i yrru’r Titanic.
Wrth inni fynd ymhell i mewn i’r pwll, buom yn siarad am y nwy peryglus oedd yn gallu bod yn y pyllau ac fel y ci drysau eu defnyddio i rannu’r pwll yn adrannau i rwystro’r nwy rhag lledaenu’r tu hwnt i’r drysau hynny flynyddoedd yn l, pan oedd plant mor ifanc 6 oed yn gweithio yno. Pasiwyd y Ddeddf Mwynfeydd a Phyllau Glo gan y Senedd yn 1842. Roedd y Ddeddf yn gwahardd menywod a merched rhag gweithio dan ddaear o gwbl, ynghyd bechgyn dan 10 oed. Siaradodd Alan am fel yr arferai glowyr ddefnyddio caneris i weld a oedd yna nwy. Roeddent yn eu defnyddio nhw oherwydd eu lliw, gan eu bod yn hawdd eu gweld. Flynyddoedd yn l roedd y glowyr yn defnyddio canhwyllau fel golau ac roedd hynny’n achosi llawer o ffrwydradau.
Gwelsom hefyd y man lle’r oedd y merlod pwll yn cael eu cadw. Roedd hyn hefyd yn fywyd caled iddyn nhw gan nad oeddent byth yn gweld golau dydd ac roeddent yn dioddef yr un anawsterau iechyd ’r glowyr. Yn Neddf Rheoleiddio Pyllau Glo 1887 y cafwyd y ddeddfwriaeth genedlaethol gyntaf i amddiffyn ceffylau a oedd yn gweithio dan ddaear.
Wedyn fe gerddon ni ymhellach i mewn i’r pwll ac roedd het galed un gweithiwr ieuenctid yn crafu ar hyd to’r pwll gan ei fod yn reit isel. Roedd gweithiwr arall yn methu cyrraedd y ganllaw. Roedd yn brofiad gwirioneddol dda ac yn llawer o hwyl o’r dechrau i’r diwedd – yn bendant, mae’n lle i ymweld ag ef os nad ydych erioed wedi bod yno.
Yn l ar y bws i Gaerdydd a phawb yn dal i fwyta da-da – allwn i ddim coelio nad oedd neb wedi dod da-da sur! Yng Nghaerdydd aethom i lawr i’r Bae ac ymweld ’r Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru, lle’r oedd gennym dasg tynnu lluniau i’w chwblhau – roedd gofyn tynnu’r lluniau ar restr. Wedyn aethom i Stadiwm y Mileniwm i fynd ar daith dywys o’i amgylch a darganfod fod y glaswellt y mae’r tm rygbi gorau yn y byd yn chwarae arno yn cael ei fewnforio o LOEGR! Gwarthus. Aethom i ffug ystafell newid a chwaraewyd anerchiad ysbrydoledig ar y seinyddion. Roedd mor dda roeddwn i a Mandy yn barod i chwarae dros ein gwlad. Fe gerddon ni allan o dwnnel y chwaraewyr, mynd i’r lolfeydd VIP ac eistedd yn seddau uchaf y stadiwm yn canu’r anthem genedlaethol – roedd yn wefreiddiol.
Cawsom bryd mewn t? bwyta ynghyd rhagor o dda-da a MacDonald’s ar y ffordd adref, ac mae’n rhyfeddod nad oedd neb yn sl ar y ffordd yn l.
Roedd yn ddiwrnod gwych. Rydyn ni i gyd yn mynd i Lundain ym mis Medi a fedra i ddim disgwyl.