Cludiant Ôl-16
Cludiant Ôl-16
Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn trefnu ac yn talu am gludiant i fyfyrwyr rhwng 16 ac 18 oed sy'n mynychu colegau (fel Coleg Cambria) yn ogystal â'r rhai sy'n mynychu chweched dosbarth mewn ysgolion uwchradd (fel Ysgol Maelor, Llannerch Banna, Ysgol Rhiwabon ac Ysgol Morgan Llwyd). Mae’r gwasanaeth yma ar hyd o bryd ar gael i’r rheiny sy'n byw dros dair milltir i ffwrdd o'u hysgol neu goleg.
Mae Cludiant Ôl-16 yn wasanaeth dewisol sy'n golygu nad oes yn rhaid i ni, dan y gyfraith, ddarparu'r gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth yma ar hyn o bryd yn costio oddeutu £400,000 y flwyddyn. Mae Cyngor Wrecsam yn wynebu gostyngiad sylweddol mewn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru ac mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’r Cyngor newid y ffordd y mae’n darparu gwasanaethau a lleihau cyllidebau a gwasanaethau.
Mae'r Cyngor yn bwriadu newid Polisi Cludiant Ôl-16. Byddai'r newidiadau arfaethedig yn dod i rym ym mis Medi 2016 ac felly’n effeithio ar fyfyrwyr sy'n dechrau addysg ôl-16 o fis Medi 2016 ymlaen. Ni fydd hyn yn effeithio ar fyfyrwyr presennol na’r rhai sy'n dechrau yn y coleg neu’r chweched dosbarth ym Medi 2015. Ni fydd chwaith yn effeithio ar fyfyrwyr sy'n byw llai na thair milltir o'u hysgol neu goleg gan nad ydyn nhw’n gymwys ar hyn o bryd i gael cludiant am ddim.
Bydd yr ymgynghoriad yn hysbysu pawb a fydd yn cael ei effeithio gan y newidiadau ynghylch yr opsiynau a fydd yn cael eu hystyried. Bydd yn rhoi cyfle i bawb fynegi barn ar yr opsiynau a chael gwybod sut y gallai’r newidiadau effeithio arnyn nhw. Bydd yr ymgynghoriad yn llywio’r penderfyniad ynghylch newidiadau i'r polisi cludiant ôl-16; penderfyniad a fydd yn cael ei wneud gan aelodau etholedig ym mis Ebrill 2015.
Mae copïau papur ar gael ar gais drwy ffonio 01978 292056. Gallwch hefyd ymateb i'r ymgynghoriad drwy e-bost school.transport@wrexham.gov.uk neu drwy ysgrifennu at Ymgynghoriad Cludiant Ôl-16, Uned Cludiant Integredig, Depo Cludiant Adran yr Amgylchedd, De Ffordd yr Abaty, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam, LL13 9PW.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ydi 13 Chwefror 2015.
https://www.surveymonkey.com/s/trafnidiaethdros16wrecsam